Cyhoeddwyd 18/09/2007
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Aelodau’r Cynulliad i fynd i Gynhadledd y Gymanwlad
Bydd tri Aelod Cynulliad yn mynd i Gynhadledd Seneddol i’r Gymanwlad gyfan ar ‘Ddarparu Democratiaeth a Datblygu Cynaliadwy’ yn New Delhi rhwng 23–30 Medi 2007.
Bydd Rosemary Butler, Alun Cairns a Mohammad Asghar yn cynrychioli’r Cynulliad ynghyd â chynrychiolwyr o Ogledd Iwerddon, yr Alban, San Steffan a seneddau a Chynulliadau taleithiol a chenedlaethol ar draws y Gymanwlad yn 53ain Cynhadledd Seneddol y Gymanwlad.
Ymysg yr eitemau ar agenda’r gynhadledd mae cyfres o ddadleuon a gweithdai ar newid yn yr hinsawdd, y defnydd byd-eang o ddwr ac ynni, datblygu economaidd, diogelu’r amgylchedd, masnachu pobl ac arferion a gweithdrefnau seneddol.
Dywedodd Rosemary Butler, Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol ac Is-lywydd Cangen Cymru o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad: “Mae’r India’n adnabyddus fel gwlad ddemocrataidd fwya’r byd. Mae’n addas iawn bod y gynhadledd hon sy’n hyrwyddo democratiaeth seneddol yn cael ei chynnal yn New Delhi gan fod y wlad yn dathlu 60 mlynedd ers ei hannibyniaeth. Mae’r gynhadledd hon yn rhoi cyfle i gysylltu â seneddau a chynulliadau eraill ar draws y Gymanwlad, i ddysgu oddi wrth ei gilydd ac i gydweithio tuag at nod Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad o ddatblygu democratiaeth seneddol, parch at reolau ac amddiffyn rhyddid yr unigolyn ar draws y Gymanwlad.”
Dywedodd Alun Cairns AC: ‘Mae amrywiaeth mawr rhwng seneddau a deddfwrfeydd y Gymanwlad ac eto mae ganddynt lawer yn gyffredin. Mae cyfarfod mewn cynhadledd yn rhoi cyfle i rannu profiadau ac i ddysgu gan eraill. Fel Cynulliad, mae’n bwysig ein bod yn edrych yn allanol fel y gallwn ddysgu gan eraill a datblygu ein sgiliau o ran dwyn y llywodraeth i gyfrif, drafftio cyfreithiau newydd a sicrhau gwaith craffu ariannol effeithlon.’
Dywedodd Mohammad Asghar AC: “Fel Aelod Cynulliad newydd a’r Aelod Cynulliad cyntaf o un o grwpiau lleiafrifol ethnig Cymru, rwy’n croesawu’r cyfle hwn i ddatblygu fy ngwybodaeth ac i gyfrannu i ddadleuon y gynhadledd. Gallwn hefyd chware ein rhan o ran codi proffil Cymru o fewn yr India ac o fewn y Gymanwlad gyfan. Mae’n bwysig bod cymunedau a gwledydd amrywiol y Gymanwlad yn datblygu ysbryd o gyd-ddealltwriaeth.”
Nodiadau
- Mae Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad yn cynnwys Seneddau a Deddfwrfeydd cenedlaethol, taleithiol a thiriogaethol gwledydd y Gymanwlad. Mae aelodau Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad yn rhannu cenhadaeth y Gymdeithas sef hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o ddemocratiaeth seneddol a pharch tuag at reolau a hawliau a rhyddid yr unigolyn, waeth beth for rhyw, hil, crefydd na diwylliant.