Aelodau’r Cynulliad i holi’r Prif Weinidog ar newid yn yr hinsawdd, gyda chymorth disgyblion ysgol o Bort Talbot

Cyhoeddwyd 14/02/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/02/2020

​Ddydd Gwener, 14 Chwefror bydd Mark Drakeford AC yn wynebu cwestiynau gan Bwyllgor Craffu ar waith y Prif Weinidog y Cynulliad Cenedlaethol.

Mi fydd pobl ifanc yn Ysgol Gymraeg Bro Dur ym Mhort Talbot yn helpu Aelodau'r Cynulliad i holi'r Prif Weinidog ynghylch pa waith mae ei Lywodraeth yn ei wneud yn dilyn datgan argyfwng hinsawdd yng Nghymru. Bydd Aelodau'r Pwyllgor hefyd yn gofyn i'r Prif Weinidog am faterion amserol eraill yn y cyfarfod.

Cyn y cyfarfod, bu disgyblion o flynyddoedd 8 a 9 yn trafod yr hyn y maen nhw'n feddwl yw ystyr 'argyfwng ar yr hinsawdd', cyn cyflwyno syniadau ar sut i fynd i'r afael â'r broblem. Bydd cwestiynau a sylwadau'r bobl ifanc yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor er mwyn llunio cwestiynau i'r Prif Weinidog.

Dyma rai o sylwadau'r disgyblion:

Tyler Kelly: "Sut y mae ein harian yn cael ei wario er mwyn creu Cymru sy'n fwy gwyrdd?"

Lili Mai Walford: "Mae angen i'n cenhedlaeth ni wybod beth y gallwn ni ei wneud am yr argyfwng hinsawdd, felly dylid ei gynnwys fel thema yn y cwricwlwm newydd."

Tia Burns: "Mae angen rhagor o bwyntiau gwefru ar gyfer ceir trydan. Dydi rhai pobl yng Nghymru ddim yn prynu ceir trydan am nad yw'n bosib eu gwefru ym mhobman."

Evan Elias: "Drwy newid gwaith dur Port Talbot i gynhyrchu ynni glân fel ynni solar, ynni dŵr ac ynni'r llanw, gallen ni fod yn brifddinas Cymru ar gyfer ynni adnewyddadwy a glân."

Mae'r Pwyllgor Craffu ar waith y Prif Weinidog yn cyfarfod unwaith bob tymor y Cynulliad er mwyn holi'r Prif Weinidog ynghylch unrhyw fater sy'n berthnasol i swyddogaethau Llywodraeth Cymru. Mae'r Pwyllgor yn cyfarfod mewn gwahanol leoliadau o amgylch Cymru pan fydd hynny'n bosibl. Mae'n canolbwyntio ar feysydd sy'n ymwneud â chyfrifoldebau portffolio penodol y Prif Weinidog neu ei rôl arwain ar gyfer Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Ann Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog:

"Rydyn ni'n canolbwyntio ar newid yn yr hinsawdd am ein bod ni'n gwybod fod pobl ledled Cymru yn poeni nad oes digon yn cael ei wneud.

"Mae pobl ifanc yn benodol yn poeni am y dyfodol ac rydym yn ddiolchgar i Ysgol Gymraeg Bro Dur am gynnal ein cyfarfod ac am ein helpu i ddatblygu cwestiynau heriol i'r Prif Weinidog.

"Mae cynnwys holl bobl Cymru yng ngwaith y Cynulliad yn un o'n blaenoriaethau allweddol ac, ar bwnc sydd mor bwysig â newid yn yr hinsawdd, mae'n hanfodol bod pobl ifanc yn cael cyfle i ddylanwadu'n uniongyrchol ar ein gwaith craffu ar y Prif Weinidog."

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn gyhoeddus, ac yn cael ei ffrydio'n fyw ar www.senedd.tv a bydd ar gael i'w weld yn ôl y galw wedyn.