Aelodau’r Cynulliad i weithio gyda San Steffan ar y Gorchymyn arfaethedig ynghylch yr iaith Gymraeg
Bydd Aelodau’r Cynulliad sy’n craffu ar y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch yr iaith Gymraeg yn cyfarfod â’u cymheiriaid yn San Steffan er mwyn rhannu eu safbwyntiau am y Gorchymyn.
Mae Mark Isherwood AC, Cadeirydd Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 y Cynulliad, wedi cytuno i gynnal cyfarfod ar y cyd yn ystod cynhadledd fideo â Hywel Francis AS, Cadeirydd Pwyllgor Dethol Materion Cymreig Ty’r Cyffredin yn San Steffan.
Bydd y ddau bwyllgor yn cyfarfod ar ôl iddynt gwblhau’r gwaith o gymryd tystiolaeth, er mwyn rhannu eu canfyddiadau.
“Mae’r iaith Gymraeg yn berthnasol i bawb yng Nghymru, yn siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg fel ei gilydd,’’ meddai Mr Isherwood.
“Dyna pam mae’n bwysig ein bod ni’r gwleidyddion yn cynnal proses graffu gywir. Mae hynny’n golygu cydweithio’n agos â’r Aelodau yn San Steffan.
“A dyna pam mae Dr. Francis a minnau wedi cytuno y dylai Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 y Cynulliad gynnal cyfarfod ar y cyd â’r Pwyllgor Dethol Materion Cymreig.
“Mae angen i ni feithrin perthynas waith dda gyda hwy ar y pwnc hwn ac ar unrhyw Orchmynion arfaethedig y gallai fod angen i ni eu hystyried yn y dyfodol.”
Dywedodd Dr Hywel Francis AS, Cadeirydd y Pwyllgor Dethol Materion Cymreig:
“Yn yr un modd â’r Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol eraill y mae fy Mhwyllgor wedi craffu arnynt, rwyf yn falch o allu sefydlu arferion gwaith effeithiol gyda fy nghydweithwyr yn y Cynulliad. Roedd y cyfarfod a gefais â Mark Isherwood yn werthfawr iawn. Cawsom rannu gwybodaeth am y Gorchymyn a threfnwyd cyfarfod pellach rhwng aelodau’r ddau Bwyllgor er mwyn rhannu ein safbwyntiau ar ôl i ni gwblhau’r broses o gasglu tystiolaeth. “
Wnaeth y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 gwrdd ar 17 Mawrth, wnaethon nhw glywed tystiolaeth gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, Mudiadau Dathlu’r Gymraeg a’r gwasanaeth Ymholiadau Trenau Cenedlaethol. Eisoes cafwyd tystiolaeth gan gynrychiolwyr o’r byd busnes, gan gynnwys y CBI, yn ogystal â Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Mentrau Iaith Cymru.
Bydd y Pwyllgor yn parhau i gymryd tystiolaeth yn ystod Mawrth ac Ebrill, a bydd yn cyflwyno ei adroddiad erbyn 5 Mehefin 2009.
Mae ymgynghoriad cyhoeddus y Pwyllgor, sy’n ystyried a ddylai Llywodraeth Cynulliad Cymru gael yr hawl i ddeddfu ar yr iaith Gymraeg ar agor tan 20 Mawrth.