Aelodau’r Cynulliad o blaid rhagor o bwerau dros lywodraethu ysgolion a hyrwyddo gweithgareddau diwylliannol

Cyhoeddwyd 24/02/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Aelodau’r Cynulliad o blaid rhagor o bwerau dros lywodraethu ysgolion a hyrwyddo gweithgareddau diwylliannol

24 Chwefror 2010

Heddiw, pasiwyd dau Orchymyn drafft gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a fydd yn golygu trosglwyddo rhagor o bwerau o San Steffan.

Bydd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Addysg) 2010 yn rhoi rhagor o bwerau i’r Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â llywodraethu ysgolion yng Nghymru.

Bydd y Gorchymyn yn galluogi’r Cynulliad Cenedlaethol i ddeddfu er mwyn gwella meysydd fel trefniadau llywodraethu ysgolion a’r cyngor a’r hyfforddiant a roddir i lywodraethwyr.

Mae Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Diwylliant a Meysydd Eraill) 2010 yn rhoi pwerau a fyddai’n golygu bod modd rhoi dyletswyddau ar awdurdodau lleol yng Nghymru i hyrwyddo gweithgareddau diwylliannol a chwaraeon o ‘ansawdd uchel’.

Ar hyn o bryd, mae awdurdodau lleol yn rhydd i ddarparu’r gweithgareddau hynny fel y mynnont gyda blaenoriaeth yn cael ei rhoi i wasanaethau gorfodol pan fydd cyllid yn brin.

Bydd y naill orchymyn a’r llall yn cael eu hanfon nawr at Ysgrifennydd Gwladol Cymru, sy’n gyfrifol am eu gosod gerbron y Senedd er mwyn i Dy’r Cyffredin a Thy’r Arglwyddi eu cymeradwyo. Os digwydd hynny, byddant wedyn yn cael Cymeradwyaeth Frenhinol yn y Cyfrin Gyngor