Aelodau’r Cynulliad yn cefnogi cyfraith newydd i gryfhau cynghorau lleol a rhoi mwy o bwerau i gynghorau cymuned

Cyhoeddwyd 16/12/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Aelodau’r Cynulliad yn cefnogi cyfraith newydd i gryfhau cynghorau lleol a rhoi mwy o bwerau i gynghorau cymuned

16 Rhagfyr 2010

Mae pwyllgor trawsbleidiol o Aelodau’r Cynulliad wedi cefnogi cyfraith newydd sy’n bwriadu ehangu cyfranogiad mewn llywodraeth leol a rhoi’r hyblygrwydd i gynghorau cymuned i wneud mwy dros eu cymunedau lleol.

Cynigiwyd y Mesur arfaethedig ynghylch Llywodraeth Leol (Cymru) gan Lywodraeth Cymru, ac mae Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3 Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi datgan ei fod yn ei gefnogi.

Ei nod yw sefydlu systemau i wneud llywodraeth leol yn fwy amrywiol, yn ogystal â chryfhau’r cymorth sydd ar gael i Aelodau’r meinciau cefn a’r broses graffu. Mewn rhai achosion, bydd yn caniatáu i gynghorau cymuned ysgwyddo mwy o gyfrifoldebau.

Dywedodd Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae cynghorau lleol yn gyfrifol am ystod eang o’n gwasanaethau a’r amgylchedd yr ydym yn byw ynddo.

“Mae’r Mesur hwn yn cynnig newidiadau sylweddol i’r ffordd y maent yn gweithredu a sut maent yn cydweithio â’i gilydd.

“Mae’r Pwyllgor yn teimlo y bydd y Mesur yn cryfhau strwythurau a dulliau gweithio llywodraeth leol ar bob lefel yng Nghymru, i sicrhau bod cynghorau lleol yn ymgysylltu â phob sector yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.”

Os caiff ei basio, bydd y gyfraith newydd yn:

  • Ceisio denu pobl o gefndiroedd mwy amrywiol i gynnig eu hunain fel ymgeiswyr ar gyfer llywodraeth leol, drwy ofyn bod cynghorau lleol yn darparu mwy o drefniadau gweithio hyblyg, gan gynnwys caniatáu i gynghorwyr fod yn bresennol mewn cyfarfodydd o bell, a chefnogi’r rhai sydd angen cymryd cyfnod o absenoldeb am resymau teuluol;

  • Gwella’r cymorth ar gyfer cynghorwyr nad ydynt yn rhan o’r weithrediaeth, cryfhau gweithgareddau craffu awdurdodau lleol a sicrhau bod gweithgareddau craffu o ansawdd uchel yn digwydd ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru;

  • Cynnal rôl y Panel Taliadau Annibynnol wrth iddo wneud argymhellion ar lwfansau a phensiynau ar gyfer cynghorwyr lleol. Bydd yn galluogi’r Panel i adolygu’r trefniadau hyn yn rheolaidd, er mwyn adlewyrchu natur newidiol gwaith llywodraeth leol a chynghorwyr, ac ymestyn cylch gwaith y panel i gynnwys cynghorau cymunedol ac awdurdodau’r parciau cenedlaethol a’r gwasanaeth tân ac achub.

Diwedd