Aelodau’r Cynulliad yn cymeradwyo’r Gorchymyn drafft ynghylch Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd 26/02/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Aelodau’r Cynulliad yn cymeradwyo’r Gorchymyn drafft ynghylch Tai a Llywodraeth Leol

26 Chwefror 2010

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi pasio Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol drafft a fydd yn effeithio ar dai cymdeithasol yng Nghymru.

Bydd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Tai a Llywodraeth Leol) 2010 yn rhoi rhagor o bwerau i’r Cynulliad Cenedlaethol ddeddfu mewn meysydd fel landlordiaid cymdeithasol, tenantiaethau tai cymdeithasol, digartrefedd, dyrannu tai a chymorth sy’n gysylltiedig â thai.

Bydd y Gorchymyn drafft yn cael ei anfon nawr at Ysgrifennydd Gwladol Cymru, sy’n gyfrifol am ei osod gerbron y Senedd er mwyn i Dy’r Cyffredin a Thy’r Arglwyddi ei gymeradwyo. Os digwydd hynny, bydd wedyn yn cael Cymeradwyaeth Frenhinol yn y Cyfrin Gyngor.

Ceir rhagor o wybodaeth am y Gorchymyn drafft yma.

Ceir rhagor o wybodaeth am y broses ddeddfu yng Nghymru yma.