Aelodau’r Cynulliad yn gweithio gyda San Steffan ar Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Arfaethedig yr Iaith Gymraeg

Cyhoeddwyd 19/05/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Aelodau’r Cynulliad yn gweithio gyda San Steffan ar Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Arfaethedig yr Iaith Gymraeg

Cyfarfu Aelodau’r Cynulliad sy’n craffu ar Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Arfaethedig yr Iaith Gymraeg â’u cydweithwyr yn San Steffan i rannu syniadau ar y Gorchymyn arfaethedig.

Mae’r ddau bwyllgor bellach wedi gorffen clywed tystiolaeth ac wedi cyfarfod yn y Cynulliad yng Nghaerdydd ar 18 Mai i drafod y prif faterion a ddaeth i’r amlwg.  

Dywedodd Mark Isherwood AC, Cadeirydd Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 y Cynulliad Cenedlaethol: “Cawsom drafodaeth adeiladol ar y dystiolaeth a gyflwynwyd i’n Pwyllgorau unigol, a gwelsom bod llawer yn gyffredin rhyngom o ran ein safbwyntiau a chyfeiriad ein hadroddiadau.”

“Yr oedd yn gyfraniad defnyddiol i’r broses craffu ar Orchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol, lle mae’n rhaid i ni weithio’n agos gyda’n cyfeillion yn San Steffan.”

Dywedodd Dr Hywel Francis AS, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig: “Roeddwn yn bleser i gwrdd â’n cyfoedion yn y Cynulliad i drafod y dystiolaeth a rhoddwyd i’n pwyllgorau. Roedd y trafodaethau yn hynod fuddiol, a byddant yn gymorth i ni wrth ysgrifennu’n adroddiad.  

Mae Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 yn awr yn ystyried yr holl dystiolaeth a gafwyd yn ysgrifenedig gan y sefydliadau a’r unigolion niferus sydd wedi ymateb a’r hyn a glywyd yn y sesiwn dystiolaeth. Mae’r Pwyllgor i gyflwyno adroddiad ar ei argymhellion ar y Gorchymyn arfaethedig erbyn 5 Mehefin 2009.