Aelodau’r Cynulliad yn pleidleisio ‘Ie’ mewn pleidlais hanesyddol ar refferendwm.

Cyhoeddwyd 09/02/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Aelodau’r Cynulliad yn pleidleisio ‘Ie’ mewn pleidlais hanesyddol ar refferendwm.

9 Chwefror 2010 Mae Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi pleidleisio o blaid cynnal refferendwm ar bwerau deddfwriaethol y Cynulliad.

Llywodraeth Cymru a gyflwynodd y cynnig yn argymell refferendwm, a hynny yn sgil adroddiad Confensiwn Cymru Gyfan, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2009.

Heddiw (9 Chwefror) pleidleisiodd mwy na 40 o Aelodau Cynulliad, a oedd eu hangen i “sbarduno” cais am refferendwm, o blaid y cynnig.

“Mae hwn yn ddiwrnod hanesyddol yn nhaith datganoli yng Nghymru,” meddai’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, y Llywydd.

“Cyfrifoldeb pobl Cymru, cyn belled â bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cytuno, fydd penderfynu a ydym yn symud ymlaen i’r cyfnod nesaf o ddatganoli.”

Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (“y Ddeddf”) yw sail prosesau deddfu presennol y Cynulliad.  Gall y Cynulliad basio deddfau, a elwir yn “Fesurau’r Cynulliad”, ar faterion lle mae Senedd y DU wedi cytuno i roi’r pwerau perthnasol hynny iddo.

Mae’r Ddeddf hefyd yn caniatáu i’r Cynulliad wneud cais am gynnal refferendwm  ynghylch a ddylid symud tuag at broses ddeddfu a fyddai’n galluogi’r Cynulliad i ddeddfu mewn unrhyw faes datganoledig heb gyfeirio at San Steffan.

Gan fod y Cynulliad bellach wedi pleidleisio o blaid y cynnig, bydd Prif Weinidog Cymru’n rhoi gwybod i Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Ar ôl hynny mae gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru 120 diwrnod i ddrafftio deddfwriaeth (“Gorchymyn drafft”) a fydd yn cynnwys y cwestiwn y bydd y refferendwm yn ei ofyn a dyddiad y refferendwm.

Bydd rhaid i’r Gorchymyn drafft wedyn gael cefnogaeth 40 o Aelodau’r Cynulliad a’i gymeradwyo gan Dy’r Cyffredin a Thy’r Arglwyddi.

Nodiadau:

Gallwch wylio’r drafodaeth ar Senedd TV.

Gallwch weld Canllaw i’r Broses Ddeddfu.

Gallwch hefyd weld canfyddiadau Confensiwn Cymru Gyfan.