Aelodau’r Cynulliad yn rhoi cynnig ar y Gymraeg

Cyhoeddwyd 24/09/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Aelodau’r Cynulliad yn rhoi cynnig ar y Gymraeg

Mae Aelodau Cynulliad o bob rhan o Gymru’n cefnogi Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn ei ymgyrch “Cymraeg yn Gyntaf” drwy ddysgu Cymraeg yn y gweithle. Mae’r ymgyrch hon, sy’n para am wythnos, yn dechrau ar ddydd Llun 24 Medi. Ei nod yw annog siaradwyr Cymraeg a dysgwyr yr iaith i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn eu bywyd bob dydd. Bydd y Cynulliad yn ficrocosm ar gyfer yr ymgyrch sydd yn digwydd mewn 18 ardal drwy Gymru, a bydd yr Aelodau’n ymuno drwy ddefnyddio yn y Siambr y Gymraeg y maen nhw wedi’i dysgu. Dywedodd Sian Jones, tiwtor Cymraeg yr Aelodau: “Mae’r Aelodau i gyd yn frwd iawn ynghylch dysgu Cymraeg a’i defnyddio, er bod eu hamserlenni prysur yn eu rhwystro rhag dilyn gwersi’n gyson. Newydd ddechrau dysgu y mae rhai aelodau sydd newydd eu hethol, tra bo eraill yn mireinio’u sgiliau ac yn defnyddio’r Gymraeg yn gyson eisoes. “Mae’r Aelodau’n cydnabod bod siarad Cymraeg â’u hetholwyr yn rhan bwysig o’r gwasanaeth y maen nhw’n ei ddarparu, ac maen nhw’n awyddus i fagu hyder drwy’i defnyddio cymaint hyd yr eithaf. ‘R wy’n gobeithio’u gweld nhw i gyd yn defnyddio ychydig o Gymraeg o leiaf yn y Siambr yr wythnos yma, a mwy hyd yn oed yn y dyfodol.” Am fwy o wybodaeth am yr ymgyrch, cysylltwch â Luned Jones, Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar 02920 878000 neu luned.jones@bwrdd-yr-iaith.org.uk.