Aelodau’r Cynulliad yn siarad dros Gymru ym Mrwsel

Cyhoeddwyd 31/03/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Aelodau’r Cynulliad yn siarad dros Gymru ym Mrwsel

31 Mawrth 2011

Bydd yr Aelodau Cynulliad Christine Chapman a Rhodri Glyn Thomas ym Mrwsel heddiw (31 Mawrth) ar gyfer eu cyfarfod llawn olaf o Bwyllgor y Rhanbarthau cyn etholiad y Cynulliad.

Pwyllgor y Rhanbarthau sy’n cynnull cynrychiolwyr llywodraethau rhanbarthol pob aelod wladwriaeth o’r UE er mwyn iddynt gael dweud eu dweud am gynnwys deddfwriaeth Ewrop. Heddiw, bydd yr Aelodau yn tynnu eu sylw at faterion Cymreig.

Bydd Christine Chapman AC yn galw ar Gomisiwn Ewrop a llywodraethau cenedlaethol i roi mwy o sylw a blaenoriaeth i’r angen i fynd i’r afael a thlodi plant.

Bydd yn brwydro’r achos dros flaenoriaethu mynd i’r afael a thlodi plant ac allgau cymdeithasol yn benodol yn rhaglenni’r cronfeydd strwythurol, gan ddadlau bod angen gweithredu brys o ystyried bod un o bob chwe pherson yn Ewrop yn byw mewn tlodi.

Bydd yr Aelod dros Gwm Cynon hefyd yn cymryd rhan mewn gwrandawiad cyhoeddus ynghylch y strategaeth economaidd gyffredinol - Europe 2020.

“Bydd y cyfarfod llawn ym Mrwsel heddiw yn rhoi’r cyfle inni ddod a materion sydd o bwys enfawr i Gymru at sylw cynulleidfa ryngwladol”, medd Christine Chapman.

“Mae’n hynod bwysig bod gan Gymru lais cryf ar lwyfan y byd, ac mae Pwyllgor y Rhanbarthau yn rhoi’r cyfle inni wneud hynny.”

“Heddiw, byddaf yn canolbwyntio ar dlodi plant, sy’n destun pryder mawr yng Nghymru, a hoffwn i waith cronfeydd strwythurol y dyfodol weithio tuag at ei ddileu. Rwy’n edrych ymlaen at drafod y pwnc gyda fy nghyd-aelodau.”

Bydd Rhodri Glyn Thomas AC yn siarad yn y ddadl ar ddyfodol Cyllideb Amlflwyddyn yr UE wedi 2013. Bu iddo ddylanwadu eisoes ar safbwynt y Pwyllgor ar faterion o’r pwys mwyaf i Gymru, gan gynnwys dyfodol y polisi amaethyddol cyffredin a pholisi cydlyniant yr UE.

Gan dynnu sylw at ymchwiliad diweddar Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol y Cynulliad i gyfranogiad Cymru mewn rhaglenni ymchwil, arloesi a dysgu gydol oes yr UE, bu’n llwyddiannus drwy gael y Pwyllgor i bwyso am fwy o gydgysylltiad rhwng rhaglenni ymchwil a chronfeydd strwythurol yr UE, gan bwysleisio yn enwedig bwysigrwydd cynyddu capasiti ym mannau tlotaf Ewrop, fel gorllewin Cymru a’r Cymoedd.

Dywedodd Rhodri Glyn Thomas: “Mae’r ddadl hon yn gyfle euraid inni ddwyn sylw at nifer o faterion sy’n hanfodol i ddyfodol Cymru.

“I ddechrau mae mater dyfodol y polisi cydlyniant a’r angen pennaf i ymgyrchu o blaid cael cronfeydd strwythurol pellach i Gymru ar ryw ffurf neu’i gilydd. Rhaid inni hefyd ddadlau’r achos o blaid cadw cyllidebau’r PAC a thaliadau uniongyrchol i ffermwyr.

“Mae’r taliadau hyn yn hanfodol i ddiogelu dyfodol ein cymunedau gwledig a’r bobl sy’n byw ynddynt.

“Rwy’n ddiolchgar i fy ngrwp, Cynghrair Ewrop, am ganiatau imi gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon gan roi’r cyfle imi ddadlau’r achos dros Gymru.

“Roeddwn hefyd yn falch o’r cyfle i fod yn aelod o Bwyllgor Ad Hoc y Gyllideb ar ran Cynghrair Ewrop, ac rwy’n falch bod pob un o’r pum gwelliant a gyflwynais wedi’u derbyn gan awduron adroddiad y pwyllgor, gan gael eu hymgorffori wedyn yn yr adroddiad terfynol.”