Aelodau’r Cynulliad yn ymchwilio i ddiwygio’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin
29 Medi 2011
Mae grwp o Aelodau’r Cynulliad wedi cael ei ffurfio i ymchwilio i flaenoriaethau Cymru wrth ddiwygio Polisi Pysgodfeydd Cyffredin y Comisiwn Ewropeaidd.
Mae Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad Cenedlaethol wedi sefydlu Grwp Gorchwyl a Gorffen sy’n cynnwys chwe Aelod ac sydd wedi’i gadeirio gan Julie James AC.
Bydd y grwp yn ymchwilio i’r materion y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru eu trafod mewn perthynas â’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredinol ac mae’n galw ar unrhyw un sydd â diddordeb yn y mater i gyflwyno tystiolaeth iddo.
Dywedodd Julie James AC, Cadeirydd y Grwp Gorchwyl a Gorffen: “Ar y cyfan, ystyriwyd fod y camau a gymerwyd i ddiwygio’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin y tro diwethaf yn 2002 heb arwain at sector pysgodfeydd cynaliadwy yn Ewrop.
“Mae’n hollbwysig, felly, bod y camau cywir yn cael eu cymryd y tro hwn, a bod Cymru yn sicrhau bod ei blaenoriaethau’n cael eu nodi.
“Gofynnaf i unrhyw un sydd â diddordeb yn y mater hwn i gysylltu â ni i gyflwyno eu syniadau a mynegi barn.”
Fel rhan o’i ymchwiliad bydd y grwp yn ystyried yr hyn a ganlyn:
Beth fydd cynigion y Comisiwn Ewropeaidd yn ei olygu i Gymru a’r ffordd y mae Parth Pysgodfeydd Cymru yn cael ei reoli? Yn benodol, a fydd cynigion y Comisiwn i ddatganoli’r rheolaeth dros y pysgodfeydd yn fanteisiol i Gymru?
Beth fydd cynigion y Comisiwn Ewropeaidd yn ei olygu i hyfywedd cymdeithasol ac economaidd cymunedau arfordirol yng Nghymru?
Pa effaith fydd newidiadau i’r sector pysgodfeydd ehangach yn Ewrop yn ei gael ar Gymru?
Beth ddylai Llywodraeth Cymru ei flaenoriaethu yn ei thrafodaethau ar ddiwygio’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin er mwyn sicrhau canlyniad buddiol i Gymru?
Sut all Cymru sicrhau bod ei barn yn cael ei chlywed yn ystod y trafodaethau hyn?
Grwp Gorchwyl a Gorffen yw panel o Aelodau’r Cynulliad a sefydlir gan bwyllgor i ymchwilio i fater penodol neu agwedd ar gylch gwaith y pwyllgor hwnnw. Gall y grwpiau hyn gael eu sefydlu dros dro neu’n barhaol, ac maent yn adrodd yn ôl i’r prif bwyllgor. Gall grwpiau Gorchwyl a Gorffen gynnal ymchwiliadau yn yr un modd â phwyllgorau, gan alw am dystiolaeth, clywed tystiolaeth a chynhyrchu adroddiadau ac argymhellion.