‘Os yw pethau’n para fel maen nhw, fydd ddim cymuned ar ôl’

Cyhoeddwyd 09/06/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/06/2022   |   Amser darllen munudau

Mae un o bwyllgorau’r Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio ddiffiniadau cyson o beth yw ‘ail gartrefi’ pan yn cynllunio polisïau, mewn adroddiad newydd lansiwyd heddiw.

Mae adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn dadansoddi gwaith Llywodraeth Cymru yn y maes hwn ac yn credi bysai data gwell a diffiniadau cyson o fudd.

Ar hyn o bryd, mae’r data a gesglir gan Awdurdod Cyllid Cymru ond yn gallu mesur sawl eiddo sydd wedi cael ei brynu gan unigolion lle nad oedd yr eiddo i fod yn brif breswylfa.

Ond, pwynt hollbwysig yw ni all wahaniaethu rhwng buddsoddiadau prynu i osod ac eiddo y gellir eu hystyried yn ail gartrefi neu yn llety gwyliau, sy’n golygu ei bod yn amhosibl gwybod faint yn union sydd ym mhob categori.

Gwnaeth y Pwyllgor annog Llywodraeth Cymru i weithio gydag Awdurdod Cyllid Cymru i sicrhau bod data ar ail gartrefi ac eiddo prynu i osod yn cael eu gwahanu’n glir, a’u bod ar gael ar lefel gymunedol i helpu i lywio polisïau yn y dyfodol.

Wrth roi tystiolaeth i’r Pwyllgor, dywedodd yr Athro Nick Gallent o Goleg Prifysgol Llundain fod y rhaniad rhwng ail gartref a chartref gwyliau yn “eithaf aneglur ac yn anodd ei ddatrys”.

Mae ail gartrefi wedi mynd yn fater dadleuol yn y blynyddoedd diwethaf, gyda llawer o gymunedau arfordirol yn galw am fwy o bwerau i allu lleihau nifer y perchnogion ail gartrefi yn eu hardaloedd.

Yn sgil hyn fe sefydlodd Llywodraeth Cymru gynllun peilot yn Nwyfor, Gwynedd, ac mae Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, yn awyddus i edrych ar sawl modd gwahanol i fynd i'r afael â'r mater.

Mae’r Pwyllgor wedi annog Llywodraeth Cymru i gadw llygad barcud ar y cynllun peilot ac mae wedi argymell y dylai roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Senedd bob chwe mis am y cynnydd mae’n ei wneud yn ogystal ag amlinellu cynllun ar gyfer mesur effeithiau yn y tymor hwy, yn cynnwys ar dwristiaeth.

 


 


John Griffiths AS,

Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai

 

 

“Mae ‘ail gartrefi’ yn fater emosiynol i gymunedau ledled Cymru, ond mae’n bwysig sicrhau cynaliadwyedd cymunedau gwledig ac arfordirol ar gyfer cenedlaethau heddiw ac yfory.

“Mae defnyddio diffiniad cyson o beth yw ‘ail gartref’, sicrhau bod data cywir yn cael eu casglu, a chadw llygad barcud ar y cynllun peilot yn Nwyfor i gyd yn flaenoriaethau. Os bydd Llywodraeth Cymru yn gwrando ar ein hargymhellion, bydd cael ei hun yn y lle gorau posibl ar gyfer unrhyw gamau y bydd yn penderfynu eu cymryd yn y dyfodol.”

 


'Dwi wedi symud wyth gwaith mewn dwy flynedd'

Mae Rachel Lewis o Solfach, sir Benfro, yn pryderu am effaith ail gartrefi ar ei chymuned hi.

Meddai, “Rydych chi'n tyfu i fyny ac yn mynd i'r brifysgol i gael gradd, ac rydych chi'n meddwl eich bod chi wedi gwneud 'y peth iawn' a byddwch chi'n gallu symud yn ôl a byw ar bwys eich teulu - ond dyw hi ddim yn bosibl. Dwi wedi symud wyth gwaith mewn dwy flynedd - yn byw yn nhai haf pobl, mewn iwrts ac mewn carafanau. Mae wedi bod yn sgrech arnaf drwy’r amser, yn ceisio dod o hyd i lety.

“Fan hyn, dyw cyflogau ddim yn cymharu o gwbl â phrisiau tai, dyw e ddim yn agos. Mae hyd yn oed yn anodd dod o hyd i rywle i'w rentu gan mai llety gwyliau neu Airbnbs yw'r cyfan yn hytrach na lleoedd rhentu tymor hir. Mae pobl yn dod yma oherwydd eu bod yn caru’r arfordir a’r gymuned fach hynod, ond yr eironi yw, os yw pethau’n para fel maen nhw, fydd ddim cymuned ar ôl.”

 


 

Mwy am y stori hon

Ail Gartref Darllenwch yr adroddiad

Ymchwiliad: Ymchwiliad i ail gartrefi