Y Siambr

Y Siambr

'Amheuon sylweddol' am y system bleidleisio arfaethedig newydd

Cyhoeddwyd 19/01/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/01/2024   |   Amser darllen munud

Gallai cynigion Llywodraeth Cymru i newid y system bleidleisio erbyn etholiad nesaf y Senedd olygu y byddai dylanwad pleidiau gwleidyddol yn cael blaenoriaeth dros ddewis pleidleiswyr, yn ôl un o bwyllgorau’r Senedd.  

Mae mwyafrif o’r Pwyllgor Biliau Diwygio, sy’n craffu ar y cynlluniau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, yn cytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil; ond mae'r Pwyllgor cyfan yn unedig o ran ei bryderon y gallai'r system bleidleisio rhestr gaeedig leihau'r dewis i bleidleiswyr.  

System bleidleisio  

Byddai’r cynigion presennol ar gyfer rhestr gaeedig yn golygu mai dim ond rhwng ymgeiswyr penodol sy’n sefyll dros blaid wleidyddol, neu rhwng pleidiau ac ymgeiswyr annibynnol, y byddai pleidleiswyr yn gallu dewis. 

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan nifer o arbenigwyr y byddai hyn yn lleihau’r dewis sydd ar gael i bleidleiswyr ac y byddai risg o anfodlonrwydd ymhlith pleidleiswyr.   

Er na wnaeth y Pwyllgor argymell system bleidleisio amgen, roedd yn gweld y manteision o gael rhestrau agored neu hyblyg, neu'r system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy.   

Mae rhestrau agored neu hyblyg yn caniatáu i bleidiau gwleidyddol flaenoriaethu eu hymgeiswyr, ond mae pleidleiswyr yn dal i allu dewis pa ymgeisydd penodol ar restr plaid y maent am ei gefnogi; tra bod y system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy yn caniatáu i bleidleiswyr restru ymgeiswyr yn y drefn o’u dewis.  

Mae adroddiad y Pwyllgor yn annog yr holl Aelodau o’r Senedd i gydweithio i ddod i gytundeb ar ddiwygiadau i’r system bleidleisio arfaethedig.  

Dywedodd David Rees, AS, Cadeirydd y Pwyllgor Biliau Diwygio, “Mae’r Pwyllgor Biliau Diwygio wedi treulio’r misoedd diwethaf yn craffu’n ofalus ar y cynigion ar gyfer rhai o’r newidiadau mwyaf sylweddol i ddemocratiaeth Cymru ers datganoli.  

“Rydym yn unedig yn ein pryderon am yr effaith y byddai’r system bleidleisio y mae Llywodraeth Cymru yn ei chynnig yn ei chael ar allu pleidleiswyr i ddewis pwy sy’n eu cynrychioli. Mae cael y system etholiadol yn gywir yn sylfaenol i iechyd democratiaeth yng Nghymru, ac mae gennym amheuon sylweddol ynghylch a yw etholiadau rhestr gaeedig yn cynrychioli cam cadarnhaol ymlaen.  

“Os bydd y Senedd yn pleidleisio o blaid y Bil yn y cyfnod cyntaf ar ddiwedd y mis, rydym yn annog pob plaid wleidyddol i gydweithio i sicrhau bod y system etholiadol yn y Bil yn rhoi mwy o ddewis i bleidleiswyr ac yn gwneud Aelodau’r dyfodol yn fwy atebol i’w hetholwyr.”  

Mae’r adroddiad yn galw am ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus am y diwygiadau etholiadol, yn enwedig y system etholiadol newydd, os bydd unrhyw newidiadau i’r system bresennol yn cael eu cyflwyno.  

Ehangu'r Senedd  

Mae Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) hefyd yn cynnig cynyddu nifer yr Aelodau o 60 i 96. Er bod y rhan fwyaf o'r Pwyllgor yn fodlon â'r cynnig hwn, nid oedd un Aelod o’r farn y gellid cyfiawnhau unrhyw gynnydd.  

Roedd tystiolaeth a roddwyd i’r Pwyllgor yn dadlau bod cyfrifoldebau’r Senedd mewn meysydd fel trafnidiaeth, datblygu economaidd, rheilffyrdd a threthiant wedi cynyddu ers 1999 a bod angen mwy o Aelodau i ddarparu lefel dda o graffu.   

Clywodd y Pwyllgor y byddai mwy o gynrychiolwyr yn gwella gallu’r sefydliad ac yn rhoi mwy o gyfle i Aelodau o’r Senedd ganolbwyntio ar feysydd penodol a datblygu gwybodaeth arbenigol.     

Bydd y Bil yn cael ei drafod yn y Senedd ar 30 Ionawr, lle bydd Aelodau’n pleidleisio ynghylch a fydd y Bil yn symud ymlaen i’r cam craffu nesaf.  

Aeth David Rees AS yn ei flaen “Er nad yw barn y Pwyllgor yn unfrydol o ran cynyddu nifer yr Aelodau, mae’r rhan fwyaf o aelodau’r Pwyllgor wedi’u darbwyllo gan y dystiolaeth bod angen diwygio, ac maent o’r farn y bydd Senedd fwy o faint mewn sefyllfa well i gyflawni ei chyfrifoldebau i bobl Cymru, nawr ac yn y dyfodol."  

Cost ehangu  

Mae Pwyllgor Cyllid y Senedd wedi craffu ar y costau sy’n gysylltiedig ag ehangu’r Senedd ers cyflwyno’r Bil y llynedd.  

Er bod y Pwyllgor Cyllid yn fodlon ar y cyfan â’r costau a’r arbedion sydd wedi’u nodi, mae ei adroddiad wedi canfod bod angen gwell modelu i geisio amcangyfrif costau penodol ac arbedion posibl y diwygiadau, yn enwedig o ystyried y gallai newidiadau i etholaethau gynyddu gwariant yr Aelodau ar gostau teithio neu lety.  

Mae’r Pwyllgor hefyd yn pryderu am honiad Llywodraeth Cymru na fyddai cynyddu nifer y Gweinidogion yn arwain at fwy o gostau staff, ac yn galw am fwy o dystiolaeth i gefnogi’r honiad.

 

Mwy am y stori hon

Gweld mwy am y Pwyllgor Biliau Diwygio

Gweld mwy am Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Goblygiadau ariannol Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)