Anerchiad y Llywydd ar noswyl agor y Trydydd Cynulliad

Cyhoeddwyd 04/06/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Anerchiad y Llywydd ar noswyl agor y Trydydd Cynulliad

Mae’n bleser eich croesawu i’r Senedd heno i ddathlu cychwyn y Trydydd Cynulliad. Carwn ddiolch i’r pedwarawd jazz o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru am greu awyrgylch hyfryd ar gyfer ein swper. Rydym newydd fwynhau gwasanaeth aml-ffydd a oedd yn ysbrydoliaeth i ni ac a oedd yn gyfle i Aelodau’r Cynulliad ymuno â chynrychiolwyr o bob cymuned ffydd yng Nghymru i ddathlu amrywiaeth cyfoethog ein cenedl. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Canon Robert Reardon, Ficer Cyffredinol Archesgobaeth Gatholig Caerdydd, y Parchedig Aled Edwards, Prif Weithredwr Cytûn a Chadeirydd y Fforwm Partneriaeth Aml-ffydd, ac aelodau eraill y fforwm, am eu gwaith a’u cydweithrediad wrth lunio gwasanaeth cynhwysol, aml-enwadol ac aml-ffydd. Carwn ddiolch i’w Ras yr Archesgob Peter Smith ac offeiriaid Eglwys Gadeiriol Fetropolitanaidd Dewi Sant am eu parodrwydd i gynnal y gwasanaeth yn eu heglwys. Hoffwn ddiolch hefyd i Gôr yr Eglwys Gadeiriol, y Côr-feistr a’r Arweinydd. Yfory, cawn y fraint o groesawu Ei Mawrhydi Y Frenhines i’r Senedd i agor y Trydydd Cynulliad yn swyddogol. Rydym ar drothwy cyfnod newydd yn ein hanes, gyda’n pwerau newydd, ac mae gennym gyfle gwych i ddatblygu cyfansoddiad Cymru a symud yn ein blaenau i gam nesaf y broses ddatganoli. Ni ddylem ddiystyru pwysigrwydd cynnal seremoni Frenhinol ffurfiol i agor y Cynulliad. Mae presenoldeb Y Frenhines yn tystio i’n statws fel sefydliad seneddol datganoledig yn y DU. Dros yr wythnosau diwethaf, cafwyd cryn sôn am ‘argyfwng’ gan iddi gymryd peth amser i ffurfio llywodraeth newydd i Gymru. Ond nid ‘argyfwng’ oedd hwn, ond y broses ddemocrataidd ar waith. Mewn gwirionedd, roedd yn gyfnod cyffrous iawn. Un o’r problemau yr ydym yn ei hwynebu yng Nghymru yw’r cysgod y mae system ddwy-blaid San Steffan yn dal i’w daflu dros ein gwleidyddiaeth. Nid yw’r model hwnnw’n berthnasol i wleidyddiaeth Cymru ac ni ddylem drafod ein gwleidyddiaeth yn y cyd-destun hwnnw. Mae cynrychiolaeth gyfrannol yn dueddol o esgor ar glymbleidiau a llywodraethau lleiafrifol ac mae angen i bawb edrych tu hwnt i San Steffan i weld yr hyn sy’n digwydd ar dir mawr Ewrop ac mewn gwledydd eraill, gan gynnwys Seland Newydd, lle mae’r math o drafodaethau a gafwyd yma dros yr wythnosau diwethaf yn norm ar ôl unrhyw etholiad. Yr hyn oedd yn bwysig o safbwynt cyfansoddiadol oedd bod gennym lywodraeth oedd yn adlewyrchu’r hyn y bu i bobl Cymru bleidleisio drosto. Yn awr, rydym yn cychwyn ar gyfnod pan fydd llywodraeth leiafrifol wrth y llyw a bydd rhaid iddi gyd-drafod â’r pleidiau eraill i sicrhau bod ei busnes yn mynd drwy’r Cynulliad yn hwylus.  Bydd hyn yn galw am gryn aeddfedrwydd o bob tu ac ni all ond cryfhau datganoli a chreu democratiaeth egnïol y mae’r etholwyr am fod yn rhan ohoni. Bu llawer o sôn am yr angen am lywodraeth sefydlog, ond bydd y system newydd, sy’n deillio o Ddeddf Llywodraeth Cymru, yn ei hanfod yn fwy sefydlog na’r hen system. O dan y system honno roedd modd i’r gwrthbleidiau “gyfarwyddo’r llywodraeth” a llesteirio’i busnes. Yn y Trydydd Cynulliad, bydd angen i’r gwrthbleidiau ddysgu sut i graffu’n effeithiol ar y llywodraeth. Ni fydd yr etholwyr yn barod i gefnogi unrhyw gamau i roi mwy o bwerau i’r Cynulliad oni bai eu bod yn ffyddiog bod proses graffu gadarn yn ei lle. Rwy’n credu’n gryf y dylai sicrhau refferendwm ar bwerau pellach, yn unol â model Senedd yr Alban, fod yn un o brif flaenoriaethau’r Trydydd Cynulliad. Mae gennym bwerau newydd hefyd i wneud Mesurau Cynulliad, sef ffordd newydd o ddeddfu ar gyfer Cymru. Gall Aelodau Cynulliad, yn ogystal â Gweinidogion, gynnig Mesurau o’r fath. Yn sgil cyflwyno’r pwerau newydd hyn, bydd mwy o gyfle i ni wneud pethau’n wahanol yma yng Nghymru. Rwy’n arbennig o awyddus i weld y system ddeisebu newydd ar waith. Bydd yn gyfrwng cyffrous i bobl Cymru ymwneud â’u Cynulliad a dylanwadu arno. Am y tro cyntaf yng Nghymru, bydd modd i’r cyhoedd chwarae rhan allweddol yn y broses seneddol drwy godi materion o bwys cenedlaethol yn uniongyrchol gydag Aelodau etholedig. Rwy’n bwriadu lansio ymgynghoriad i wahodd y cyhoedd i awgrymu ffyrdd o greu system ddeisebu sydd mor agored ac effeithiol â phosib. Rwy’n annog unrhyw un sy’n edrych ymlaen mor eiddgar â minnau at weld y datblygiad hwn yn llwyddo i fynd i’n gwefan ac ymateb i’r ymgynghoriad. Themâu’r gwasanaeth aml-ffydd a gynhaliwyd yn gynharach heno oedd Sybsidiaredd ac Undod, Cymru Gynhwysol a Budd Pawb. Mae’n briodol ein bod yn myfyrio ar y themâu hyn wrth i ni gychwyn ar bennod newydd yn hanes y Cynulliad ac yn hanes Cymru. Mae’n ddyletswydd ar bob un ohonom i geisio creu’r math o sefydliad agored a democrataidd y mae pobl Cymru’n ei haeddu.