Anerchiad y Llywydd yn y Gynhadledd ar Lywodraeth Cymru ar gyfer y Dyfodol

Cyhoeddwyd 21/06/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Anerchiad y Llywydd yn y Gynhadledd ar Lywodraeth Cymru ar gyfer y Dyfodol

Croeso i’r digwyddiad arwyddocaol hwn, lle cawn gyfle fel gwleidyddion a chynrychiolwyr cymdeithas sifil i gyfarfod a dysgu am y posibiliadau o ran pwerau deddfu a chraffu newydd y Cynulliad Cenedlaethol.    Am y tro cyntaf, bydd yr egwyddorion o fod yn agored ac yn dryloyw wrth greu prosesau deddfu a chraffu ar gyfer Cymru, yn gymwys i’r ffordd y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn ymgymryd â’i waith.   Mae’r Ddeddf hon wedi dileu’r lol cyfreithiol o ymgorffori llywodraeth seneddol mewn un corff ac wedi gwahanu’r pwerau er mwyn creu democratiaeth dryloyw ac effeithiol.      Yr egwyddor bennaf sydd wrth wraidd y Cynulliad newydd yw atebolrwydd llawn Gweinidogion y Llywodraeth i’r Cynulliad, ac i bobl Cymru, yn weinyddol, yn ariannol ac yn ddeddfwriaethol. Bydd angen creu confensiynau a gweithdrefnau newydd i gyflawni hyn. Y darpariaethau ariannol sydd wedi’u hamlinellu fwyaf eglur, a hynny yn Rhan 5 o’r Ddeddf. Maent yn pennu’r egwyddor sylfaenol fod yn rhaid i Weinidogion ofyn caniatâd y Cynulliad i ddefnyddio adnoddau. Dim ond gyda chaniatâd Archwilydd Cyffredinol Cymru y gall Llywodraeth Cymru dynnu arian i lawr o Gronfa Gyfunol Cymru sy’n rhan o Grant Bloc Swyddfa Cymru. Felly mae’n bosibl y bydd dadleuon llawn a phriodol ynglyn â’r ‘gyllideb’, cyflenwi a phenderfyniadau ariannol yn rhan o’r drefn arferol pan gaiff busnes y Llywodraeth ei drafod.  Caiff confensiynau nad ydynt yn ymwneud â chyllid eu sefydlu wrth i Weinidogion Llywodraeth Cymru wynebu cynigion o gerydd a chynigion o ddiffyg hyder, fel sy’n norm mewn cyrff deddfwriaethol eraill. Yr ail o’r egwyddorion hyn yw bod Cynulliad Cenedlaethol yn gallu pasio’i ddeddfwriaeth ei hun. Mae Deddf Llywodraeth Cymru wedi creu proses Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor sy’n arwain at ‘Fesurau’. Mae’r rhain yn cyfateb i ddeddfwriaeth sylfaenol a dyma sydd fwyaf arwyddocaol am y Ddeddf. Mae’r Llywodraeth eisoes wedi cyhoeddi 6 gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol drafft a thri mesur.   Yr wythnos diwethaf, cyhoeddais hefyd y byddai’r balot cyntaf ar gyfer aelodau unigol yn cael ei gynnal ddydd Mawrth nesaf, 26 Mehefin. Bydd hyn yn rhoi cyfle i Aelodau’r Cynulliad gyflwyno’u gorchmynion cymhwysedd deddfwriaethol neu’u mesurau eu hunain, ac yn galluogi unrhyw un i gyflwyno deddfwriaeth ddrafft drwy law Aelodau Cynulliad unigol.  Rwy’n annog unrhyw un ohonoch sy’n awyddus i gyflwyno deddfwriaeth newydd i wneud hynny. Rwy’n rhagweld y byddwn yn cynnal balot ar gyfer gorchmynion cymhwysedd deddfwriaethol a mesurau’n rheolaidd drwy gydol blwyddyn y Cynulliad, ac rwy’n amcangyfrif y byddwn yn gwneud hyn bob deufis gan greu hyd at 12 darn o ddeddfwriaeth.  Yn ogystal â hyn, bydd modd i bwyllgorau’r Cynulliad gyflwyno’u cynigion eu hunain ar gyfer deddfwriaeth. Yn wir, mae’r darn cyntaf o ddeddfwriaeth a gyflwynwyd gan y Llywodraeth, sy’n ymwneud ag anghenion addysgol ychwanegol, yn deillio o adroddiad a baratowyd yn gynharach eleni gan un o’r pwyllgorau craffu. Bydd safon ac effeithiolrwydd y casgliad hwn o gyfreithiau’n dibynnu ar safon y gwaith craffu a wneir ar unrhyw gynigion deddfwriaethol cyn y broses ddeddfu, ynghyd â’r camau a gymerir i gadw llygad ar y gwaith o weithredu unrhyw ddeddfwriaeth drwy fesur cydymffurfiaeth a chanlyniadau. Bydd hefyd yn dibynnu ar eglurder y drafftio ac ar y wybodaeth a roddir i’r cyhoedd am effeithiau’r mesurau sy’n dod i rym.     Un o’r prif newidiadau i’r ffordd y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gweithio fydd rôl yr Aelodau’n craffu ar waith y Llywodraeth a’i dwyn i gyfrif.   Ni fydd Gweinidogion yn aelodau o’r pwyllgorau newydd, ni fydd agendâu’r pwyllgorau’n troi o amgylch adroddiadau’r Gweinidogion a bydd ganddynt rôl bendant – tebyg i bwyllgorau dethol – o ran ymchwilio i wir effaith gwasanaethau mewn cyd-destun penodol ac ar lawr gwlad.    Rwy’n mawr obeithio y bydd yr athroniaeth a’r arferion gorau o ran archwilio’n treiddio drwy holl waith y pwyllgorau a bydd Swyddfa Archwilio Cymru’n adnawdd pwysig i bob un ohonynt. Mae’n anhygoel, o safbwynt y Cynulliad hwn, na fu gennym yn y gorffennol Bwyllgor Cyllid, sef conglfaen gwaith craffu, i ystyried cynlluniau gwario’r Llywodraeth a’r hyn y mae’n ei gyflawni. Bydd hwn yn un o nifer o bwyllgorau a fydd yn gyfrifol am graffu. Er ein bod yn dal i drafod strwythur y pwyllgorau, mae’n debyg y bydd gennym bedwar prif bwyllgor craffu - Menter a Dysgu ; Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ; Cynaliadwyedd, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd, ynni, materion gwledig ac amaethyddiaeth, yr amgylchedd a chynllunio; Cymunedau, gan gynnwys Tai, Cynhwysiant Cymdeithasol, Diwylliant, y Celfyddydau a Chwaraeon.   Bydd cynghorwyr annibynnol yn cynorthwyo’r pwyllgorau sefydlog â’u gwaith, ond hoffwn dynnu’ch sylw at un newid arloesol a fydd, gobeithio, yn rhoi cyfle i ni ddatblygu ffordd i bobl Cymru ymwneud yn uniongyrchol â’r Cynulliad, sef y system ddeisebu newydd. Gofynnwn am eich sylwadau ynglyn â’r ffordd y gallwn ddefnyddio’r system ddeisebu, a syniadau am yr hyn y credwch y dylai’r Cynulliad fod yn ei wneud.    Dim ond deg enw sydd eu hangen ar ddeiseb a gall pobl o bob oed ac o unrhyw le ei llofnodi. Fy nghyfrifoldeb i fel Llywydd fydd penderfynu a ddylid derbyn deiseb ac yna gwneud yn siwr bod y Pwyllgor Deisebau’n ei thrafod. Bydd y Pwyllgor hwnnw’n ei chyfeirio at bwyllgor priodol neu at y Llywodraeth a fydd yn ymateb iddi ac yn cyflwyno adroddiad am y camau a gymerwyd o ganlyniad iddi.   Byddwn i gyd yn cyfrannu at y gynhadledd hon a thrwy’n gweithdai’r prynhawn yma, a chyfraniadau’r gwahanol siaradwyr, rwy’n ffyddiog y gallwn gydweithio i sicrhau ein bod yn manteisio i’r eithaf ar Ddeddf Llywodraeth Cymru ac yn bodloni disgwyliadau pobl Cymru ar ein ffordd i’r Refferendwm!