Angen adolygu'r system athrawon cyflenwi - yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 16/12/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2015

 

Dylai'r system ar gyfer darparu athrawon cyflenwi yng Nghymru gael ei hadolygu yn ôl pwyllgor yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ystyried modelau eraill ar gyfer llenwi'r bylchau a grëir gan absenoldebau athrawon gan ei fod o'r farn nad yw'r system bresennol, sef bod un asiantaeth yn cyflawni contract i Gymru gyfan, yn gweithio'n ddigon da .

Llanwodd tua 1,500 o bobl arolwg ar gyfer y Pwyllgor i greu darlun o sut mae'r system athrawon cyflenwi yn gweithio ledled y wlad.

Canfu mai athrawon cyflenwi sy’n dysgu bron i chwarter y disgyblion o leiaf unwaith yr wythnos, a bod 30 y cant yn cael eu dysgu gan athro cyflenwi gwahanol bob tro.

Dywedodd 60 y cant o'r rhai a holwyd fod disgyblion yn bwrw ymlaen â'r un gwaith pan fydd athro cyflenwi yn eu dysgu, ond dywedodd 80 y cant fod disgyblion yn dysgu llai a bod ymddygiad y plant yn dirywio.

Mae'r Pwyllgor hefyd wedi codi pryderon am y diffyg data dibynadwy ar gyfer y rhesymau am absenoldebau salwch athrawon. Mae'r Pwyllgor yn nodi y gellid mynd i'r afael â hyn o dan ganllawiau newydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru wrth i'r ymchwiliad fynd rhagddo.

Hefyd, ymchwiliodd y Pwyllgor i Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) ar gyfer athrawon cyflenwi, a chodwyd pryderon penodol ynghylch cost ac argaeledd DPP. Pryder arall a amlygwyd yn y dystiolaeth i’r Pwyllgor oedd anawsterau Athrawon Newydd Gymhwyso o ran gallu dangos yn llawn eu bod wedi cyrraedd safonai proffesiynol. 

Athrawon Newydd Gymhwyso yw'r mwyafrif yn rhwydwaith athrawon cyflenwi Cymru.

"Mae gwaith athrawon cyflenwi yn rhan hanfodol o'r system addysg," meddai David Rees AC, Cadeirydd Dros Dro'r Pwyllgor.

"Mae absenoldebau athrawon yn anochel, ond rhaid ei gwneud yn nod cyffredin bod athrawon cyflenwi yn cael eu darparu yn effeithiol lle bo eu hangen, a bod y ddarpariaeth bod o’r radd flaenaf, fel y caiff disgyblion addysg o ansawdd yn barhaus.

"Rydym yn nodi y gallai canllawiau Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd yn ystod ein hymchwiliad, fynd i'r afael â rhai o'r pryderon a godwyd.

"Ond mae ein prif argymhelliad yn galw ar i Lywodraeth Cymru edrych ar ystod o opsiynau ar gyfer cyflogi athrawon cyflenwi, gan gynnwys trefniadau clwstwr a weithredir gan awdurdodau lleol neu drwy gorff cenedlaethol."

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 23 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys y canlynol:

  • Dylai Llywodraeth Cymru ddechrau gweithio i gynllunio model newydd ar gyfer cyflogi athrawon cyflenwi;
  • Dylai Llywodraeth Cymru wneud gwaith ymchwil ar unwaith i gadarnhau (a) a oes cynnydd yn y defnydd o athrawon cyflenwi mewn ardaloedd difreintiedig, a (b) achosion unrhyw gynnydd;
  • Dylai Llywodraeth Cymru ystyried ar frys y goblygiadau ar gyfer Athrawon Newydd Gymhwyso sy'n cael eu defnyddio fel athrawon cyflenwi, er mwyn eu galluogi i ddangos yn llawn eu bod wedi cyrraedd safonau athro proffesiynol; a
  • Rhaid i Lywodraeth Cymru ei gwneud yn glir sut y gellir defnyddio'r Fargen Newydd a Chynlluniau Datblygu Ysgolion er mwyn cefnogi yn gadarnhaol anghenion DPP athrawon cyflenwi, yn enwedig y rhai sydd ar gontractau tymor byr.

Adroddiad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Ymchwiliad i Waith Athrawon (PDF, 1MB)

Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg