Angen Bargen Dwf ar y Canolbarth hefyd, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad

Cyhoeddwyd 02/11/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/11/2017

Mae ar y Canolbarth angen yr un math o arian buddsoddi a manteision sy'n dod yn sgîl bargeinion dinas-ranbarthau mewn rhannau eraill o Gymru, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.

 

Bu Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn edrych ar botensial y bargeinion sy'n cynnwys ardaloedd Bae Abertawe a Chaerdydd, y mae'r naill a'r llall yn werth mwy na biliwn o bunnoedd mewn cyllid dros y 10-15 mlynedd nesaf.

Mae cynlluniau ar gyfer trefniant tebyg yn y Gogledd hefyd.

Bydd y bargeinion, rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, awdurdodau lleol a buddsoddiad preifat yn arwain at ddigonedd o arian yn cael ei roi ar gyfer gwell cludiant, gwell cysylltedd â'r rhyngrwyd, gwelliant o ran datblygu busnes ac arloesedd, yn ogystal â rhaglenni eraill sydd â'r nod o ddarparu swyddi ac o godi safonau byw.

Ond canfu'r Pwyllgor, er bod corff partneriaeth wedi'i sefydlu i fod yn gyfrifol am nodi themāu a blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi, ar hyn o bryd nid oes dim cynlluniau ar gyfer bargen debyg ar gyfer canolbarth Cymru. Dywedodd awdurdodau lleol ac arweinwyr busnes yr ardal wrth y Pwyllgor eu bod yn teimlo eu bod ar ôl, ac yn cael eu hanwybyddu.

Dywedodd Russell George AC, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: "Mae'r bargeinion rhanbarthol newydd hyn, sy'n werth biliynau o bunnoedd, yn ailffurfio blaenoriaethau datblygu economaidd De Cymru, a gallant wneud yr un peth i weddill Cymru.

"Byddai bargen y Canolbarth yn cwblhau'r jig-so o ran gweledigaeth uchelgeisiol. Credwn y byddai cyllid i wella'r seilwaith trafnidiaeth a'r cysylltedd digidol, ac i ddatblygu cyfleoedd newydd o ran swyddi o fudd mawr i'r ardal ac i'r wlad gyfan.

"Rydym hefyd am weld manteision y bargeinion hyn yn cyrraedd y bobl mwyaf difreintiedig yn eu hardaloedd.

"Mae'n galonogol gweld bod arweinwyr y bargeinion yn ymwybodol o'r materion hyn, ond nid yw'n glir a fydd hynny'n ddigon i sicrhau y gall bargeinion osgoi creu enillwyr a chollwyr," ychwanegodd.

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 11 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Dylai fod Bargen Dwf ar gyfer Canolbarth Cymru. Rhaid i Lywodraeth Cymru a Phartneriaeth Twf Canolbarth Cymru ymgysylltu â thrawsdoriad eang o gymunedau rhwng y Cymoedd a choridor yr A55, ac ar hyd arfordir gorllewin Cymru, i benderfynu pa gamau ymarferol y dylid eu cynnwys yn y Fargen;

  • Dylai Llywodraeth Cymru barhau i gefnogi cynlluniau ar gyfer Bargen Dwf Gogledd Cymru a defnyddio'r dylanwad sydd ganddi i gyflymu'r broses hon; a

  • Dylai Llywodraeth Cymru osod dyletswydd ar gyrff rhanbarthol i hyrwyddo datblygiad economaidd/twf cynhwysol, gyda disgresiwn i wario swm sylweddol o arian boed hynny gan Lywodraeth Cymru, neu wedi'i godi o fewn y rhanbarth.

 
Anfonir yr adroddiad at Lywodraeth Cymru iddi ei ystyried.