Angen codi morâl a safonau mewn gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau

Cyhoeddwyd 24/07/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/07/2019

Gallai mabwysiadu dull gweithredu amlddisgyblaethol ym maes gwasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau hybu morâl staff a chodi safonau yn ôl Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol.


Mae'r Pwyllgor yn bryderus iawn nad yw gwasanaethau y tu allan i oriau yn ddeniadol i feddygon, sy'n nodi gweithio ar eu pennau eu hunain, gweithio dan bwysau oherwydd shifftiau heb eu llenwi a pheidio â bod yn rhan o dîm sy'n cael ei werthfawrogi fel rhesymau dros forâl isel.

Mewn ardaloedd gwledig, mae'r materion yn waeth oherwydd bod angen i feddygon teulu weithio dros ardaloedd eang ac yn wynebu penderfyniadau anodd yn ymarferol o ran blaenoriaethu cleifion, yn aml ar eu pennau eu hunain.

Clywodd y Pwyllgor am gynlluniau arloesol sy'n cael eu gweithredu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mae Caerdydd a'r Fro yn cefnogi meddygon teulu y tu allan i oriau gydag ymarferydd clinigol, arweinydd nyrsio uwch a swyddogaeth weinyddol.

Mae Hywel Dda yn defnyddio meddygon teulu, fferyllwyr ac uwch-nyrsys, ac yn hyfforddi gweinyddwyr a gyrwyr fel gweithwyr cymorth gofal iechyd. Mae dau ymarferydd parafeddygol datblygedig hefyd yn mynd ar ymweliadau cartref ac yn cyfrannu o fewn canolfannau triniaeth.

"Nid yw pobl yn mynd yn sâl neu'n brifo eu hunain rhwng 9am a 5pm, felly mae gwasanaethau y tu allan i oriau yn rhan hanfodol o'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru," meddai Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

"Rydym ni'n bryderus iawn am y diffyg morâl ymhlith y staff sy'n darparu'r gwasanaethau hyn ac rydym yn cydymdeimlo'n fawr â staff sy'n aml yn gweithio ar eu pennau eu hunain ac o dan bwysau oherwydd swyddi heb eu llenwi ledled y wlad.

"Mae yna enghreifftiau yng Nghymru o fyrddau iechyd yn mabwysiadu dull gweithredu gwahanol ym maes gwasanaethau y tu allan i oriau, yn aml gyda thimau aml-ddisgybledig i rannu'r baich ac ehangu'r arbenigedd sydd ar gael.

"Hoffem weld yr enghreifftiau hyn o arfer gorau yn cael eu rhannu ar draws y wlad ac rydym yn annog Llywodraeth Cymru i barhau â'i hymdrechion i ddarparu gwasanaeth sy'n gweithio i staff a chleifion."

Gwna'r Pwyllgor wyth argymhelliad yn ei adroddiad gan gynnwys:

  • bod Llywodraeth Cymru yn rhannu arfer da wrth wneud gwasanaethau y tu allan i oriau'n lleoedd mwy deniadol i weithio ynddynt;
  • bod Llywodraeth Cymru yn adolygu'r ffordd y mae'n dyrannu cyllid i fyrddau iechyd ar gyfer gwasanaethau y tu allan i oriau er mwyn sicrhau bod y dyraniadau'n adlewyrchu'r anghenion gwasanaeth presennol yn fwy cywir ac yn rhoi mwy o dryloywder o ran buddsoddiad a gwariant gwirioneddol; a
  • bod Llywodraeth Cymru yn datblygu polisïau i gynyddu nifer y meddygon teulu.

Bydd yr adroddiad yn awr yn cael ei drafod gan Lywodraeth Cymru.


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Gwasanaeth gofal sylfaenol y tu allan i oriau (PDF, 576 KB)