Angen cymryd camau i gryfhau'r gweithlu meddygon teulu yn ôl Pwyllgor yn y Cynulliad

Cyhoeddwyd 20/02/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/02/2015

​Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi amlinellu nifer o gamau gweithredu sydd eu hangen i sicrhau bod meddygon teulu yn cael eu recriwtio, eu hyfforddi a'u cadw yn unol â gofynion yr oes hon ar y gwasanaeth gofal sylfaenol.

Mewn llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, nododd David Rees, Cadeirydd y Pwyllgor, naw argymhelliad a luniwyd ar ôl ystyried tystiolaeth ysgrifenedig a llafar gan Ddeoniaeth Cymru, Cymdeithas Feddygol Prydain Cymru a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol.

Yn ôl David Rees: "Clywodd y Pwyllgor fod rôl meddygon teulu yng Nghymru yn newid. Mae ein poblogaeth yn cael mwy o gyflyrau tymor hir ac aml-afiachusrwydd. Ac mae disgwyliadau uwch gan bob un ohonom o ran y gofal y dylem ei dderbyn.

"Mae llwyth gwaith meddygon teulu yn trymhau; bellach mae'n rhaid iddynt arwain tîm ehangach o arbenigwyr eraill i ddarparu gofal priodol.

"Canfu'r Pwyllgor fod angen i Lywodraeth Cymru ailystyried nifer y llefydd hyfforddi sydd ar gyfer meddygon teulu, ystyried ffyrdd o wneud ymarfer cyffredinol yn yrfa fwy deniadol, ac ystyried opsiynau ar gyfer cadw meddygon teulu, gan gynnwys y rhai sy'n agosáu at oed ymddeol, o fewn gweithlu GIG Cymru. Rydym yn gobeithio y bydd canfyddiadau'r Pwyllgor yn helpu i lywio'r cynllun gweithlu gofal sylfaenol sydd ar y gweill gan Lywodraeth Cymru."

Mae'r llythyr a'r atodiad ynghlwm. Mae rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad, gan gynnwys y dystiolaeth a gafodd y Pwyllgor