Angen cynhyrchu rhagor o danwydd gwyrdd os yw Cymru am gael gwared ar ei henw drwg o ran allyriadau carbon

Cyhoeddwyd 13/05/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Angen cynhyrchu rhagor o danwydd gwyrdd os yw Cymru am gael gwared ar ei henw drwg o ran allyriadau carbon

Mae Pwyllgor Cynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n credu nad yw Llywodraeth Cymru’n gwneud digon i gyflawni llawn botensial ynni adnewyddadwy yng Nghymru.

Er bod y Pwyllgor yn cydnabod bod y Gweinidog wrthi’n llunio Trywydd Ynni Adnewyddadwy, mae Aelodau’r Pwyllgor yn dweud nad yw hyn yn mynd ddigon pell wrth lunio darlun o’r cymysgedd ynni y mae Llywodraeth Cymru ei eisiau.

Mae’r Aelodau’n credu bod hyn yn hanfodol os yw Cymru am gael gwared ar ei henw drwg fel y wlad sy’n cynhyrchu mwy o allyriadau carbon nag unrhyw un o wledydd eraill y DU.

“Er ein bod yn cydnabod y gwaith a wneir eisoes gan Lywodraeth Cymru ar ynni adnewyddadwy, mynegodd y rhai a roddodd dystiolaeth siom nad oedd Llywodraeth Cymru wedi gwneud mwy i wireddu llawn botensial ynni adnewyddadwy yng Nghymru,” meddai Mick Bates AC, Cadeirydd y Pwyllgor.

“Mae ynni yn ganolog i bopeth a wnawn ond mae’r ffyrdd traddodiadol o gynhyrchu ynni drwy ddefnyddio tanwydd fel glo, nwy ac olew yn golygu mai dyma’r ffynhonnell unigol fwyaf o allyriadau carbon.

“Credaf y byddai’r newidiadau hyn, ynghyd â defnyddio technolegau newydd ar gyfer cynhyrchu ynni tanwydd ffosil a thwf cyflym y sector ynni adnewyddadwy, yn golygu nad yw sector ynni carbon isel yn arwain at fyw mewn cartrefi oer a thywyll, neu roi’r gorau i ddefnyddio dulliau technolegol newydd yn ein gwaith.”

Mae’r Pwyllgor hefyd yn nodi pryderon bod seilwaith y ffyrdd yn rhwystr i osod ffynonellau ynni adnewyddadwy.

Mae hyn yn fwyaf amlwg yn y Gymru wledig lle mae offer a pheiriannau mawr yn ei chael yn anodd i gael mynediad i leoliadau.

Dyma brif argymhellion yr adroddiad:

  • Bod Llywodraeth Cymru, fel rhan o’i strategaeth ynni, yn llunio fframwaith strategol ar gyfer yr holl waith cynhyrchu ynni yng Nghymru, gan ddangos y cymysgedd dewisol ar gyfer Cymru o ran gofod a chynhyrchu.

  • Bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynnal adolygiad trylwyr i ganfod a yw’r seilwaith trafnidiaeth a chysylltiadau’r grid yn ddigonol ar gyfer adeiladu gweithfeydd tanwydd ffosil a gweithfeydd ynni adnewyddadwy

  • Bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn parhau i annog cwmnïau grid a dosbarthu i gydweithio â’r datblygwyr i ddatblygu dull integredig o gysylltiadau ar gyfer ynni adnewyddadwy mawr..

  • Bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn symleiddio nifer a natur y targedau a osodwyd ar gyfer lleihau allyriadau carbon ac yn sicrhau bod cysondeb a chysylltiad penodol rhwng y targedau ar gyfer ynni adnewyddadwy a lleihau allyriadau carbon.

  • Bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn canolbwyntio ar yr hyn a gyflawnwyd gan y targedau a osodwyd ganddi drwy roi digon o gymhelliant ar gyfer ymchwilio i dechnolegau ynni adnewyddadwy, cyhoeddi arweiniad ar ffyrdd i gyrraedd y targedau hynny a rhannu enghreifftiau o arfer da.

  • Bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn archwilio’r posibilrwydd y gallai awdurdodau lleol yng Nghymru roi benthyciadau ar gyfer gosod technoleg microgynhyrchu domestig, e.e. cynllun Kirklees, neu ad-daliadau yn seiliedig ar fwydo’r refeniw tariff.

Aelodau'r Pwyllgor yn ystod lansiad yr adroddiad yn Techniquest, Bae Caerdydd

Aelodau'r Pwyllgor yn ystod lansiad yr adroddiad yn Techniquest, Bae Caerdydd