Angen gweithredu ar frys cyn ei bod hi'n rhy hwyr i fanciau yng Nghymru

Cyhoeddwyd 17/10/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/10/2019

Heddiw, mae Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau'r Cynulliad Cenedlaethol yn lansio adroddiad syfrdanol ar fynediad at wasanaethau bancio ac ATM ar draws Cymru. Rhwng mis Ionawr 2015 a mis Awst 2019, collodd Cymru fwy na dwy o bob pump o'i changhennau banc, cyfanswm o 239.

Gan ymateb i'r nifer cynyddol o fanciau sy'n cael eu cau, mae Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau'r Cynulliad heddiw yn galw i Lywodraeth Cymru weithredu ar fyrder.


Mynediad at wasanaethau bancio - yr ystadegau

Mae canfyddiadau gan ymgynghoriad cyhoeddus y Pwyllgor yn ogystal á nifer o arolygon gan Which?, LINK, Llywodraeth y DU a'r Rheoleiddiwr Systemau Taliadau yn dangos maint y broblem a'r effaith debygol ar aelodau'r cyhoedd ar draws y wlad.

  • Dywedodd 87 y cant o gwsmeriaid bancio personol fod cau canghennau banc wedi cael effaith arnynt.

  • Dywedodd 36 y cant o bobl: "Erbyn hyn mae'n cymryd hyd at 30 munud yn ychwanegol i mi gyrraedd cangen banc".

  • Dywedodd 50 y cant o bobl: "Mae cau canghennau banc yn y gorffennol wedi arwain at gyfyngu mynediad at beiriant codi
    arian neu unrhyw gyfleuster arall i godi arian".

  • Gostyngodd nifer y peiriannau ATM rhad ac am ddim i'w defnyddio yng Nghymru 10 y cant (2,517 i 2,281) rhwng mis Mawrth 2018 a mis Mawrth 2019.

  • Nid yw 51 y cant o bobl dros 75 oed yng Nghymru yn defnyddio'r rhyngrwyd yn rheolaidd.

  • Dywedodd 26 y cant o'r rhai yr effeithiwyd arnynt yn negyddol: "Byddai gwell cysylltedd wifi a/neu rhyngrwyd yn helpu".

Angen gweithredu ar fyrder

Nid yw mynediad rhad ac am ddim at beiriannau bancio ac arian parod yng Nghymru yn bryder newydd ond mae nifer yr achosion o gau'r gwasanaethau hyn yn cynyddu ar raddfa syfrdanol.

Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru fapio'r gwasanaethau bancio a pheiriannau ATM ar fyrder i asesu'r effaith wirioneddol ar bobl yn sgil cau'r gwasanaethau hyn, yn enwedig pobl fregus, pobl oedrannus, busnesau bach a phobl sy'n dibynnu ar arian parod.

Mae ymchwiliad y Pwyllgor wedi ystyried nifer o feysydd lle gall Llywodraeth Cymru ymyrryd a gwneud gwahaniaeth:


1. Mynediad at arian parod

Mae yna nifer o strategaethau ledled y DU ar waith i sicrhau bod digon o beiriannau ATM ar gael. Mae'r Pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed ar lefel y DU, a gofalu bod y camau sy'n cael eu cymryd gan y Grŵp Strategaeth Arian Parod ar gyfer Awdurdodau ar y Cyd (JACS), Llywodraeth y DU, i sicrhau y caiff gwasanaethau arian parod Cymru eu diogelu.

Rhaid i Lywodraeth Cymru hefyd barhau i weithio gyda LINK a'r rheoleiddwyr i gryfhau'r rhwydwaith peiriannau ATM rhad ac am ddim i'w defnyddio, a sicrhau bod peiriannau yn lle y mae eu hangen fwyaf.


2. Canol trefi, y brif stryd a rheolau cynllunio

Clywodd y Pwyllgor gan nifer o sefydliadau am yr effaith y mae cau banciau wedi'i chael ar gymunedau, canol trefi a'r stryd fawr ynghyd ag effaith colli peiriannau ATM rhad ac am ddim i'w defnyddio. Mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y mae'n bwriadu ystyried yr effaith ar gymunedau yn sgil cau banciau ochr yn ochr â'i gweithgareddau adfywio cymunedol.

Mae cyfleusterau bancio yn aml yn cael eu colli oherwydd y newid yn natur y stryd fawr a datblygiadau modern. Dylai Llywodraeth Cymru a chynghorau lleol ddefnyddio rheolau cynllunio i amddiffyn banciau a sicrhau bod cynlluniau datblygu lleol cynghorau yn cadw isadeiledd arian parod wrth flaengynllunio ar gyfer cymunedau.


3. Bancio digidol a chysylltedd

Mae data o Which? a chanlyniadau ymgynghoriad y Pwyllgor yn dangos bod llawer o bobl yn amharod i ddefnyddio gwasanaethau'n ddigidol, neu'n methu â dechrau gwneud hynny. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth nad yw pobl hŷn yn benodol yn gallu defnyddio gwasanaethau bancio ar-lein neu nad ydynt yn ymddiried yn y gwasanaethau ar-lein.

Ni fydd unrhyw faint o addysg ariannol na hyfforddiant digidol yn helpu os na chaiff problemau o ran cysylltedd eu datrys. Pan ofynnodd y Pwyllgor i'r rhai yr effeithir arnynt yn negyddol gan fanciau'n cau beth y gellid ei wneud i helpu, dywedodd 26 y cant ohonynt 'gwell WiFi a/neu gysylltedd rhyngrwyd'.


4. Banc Cambria - Banc Cymunedol

Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cyllid cychwynnol i gefnogi'r gwaith o ddatblygu banc cymunedol i Gymru, Banc Cambria. Clywodd y Pwyllgor nifer o bryderon ynghylch ymarferoldeb banc cymunedol a bod ffyrdd llai costus o ddarparu cyfleusterau bancio cymunedol.

Roedd tystiolaeth a roddwyd i'r Pwyllgor yn datgan y bydd hyd yn oed banc cymunedol cydfuddiannol yn wynebu realiti cost cynnal rhwydwaith canghennau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig gyda nifer cymharol fychan o ymwelwyr.

Mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu manylion ynghylch sut y bydd yn rheoli'r risgiau parhaus sy'n gysylltiedig â rhoi arian cyhoeddus ym model bancio heb ei brofi y Gymdeithas Banc Cynilion Cymunedol, ac egluro lefel y gefnogaeth y mae'n rhagweld y bydd yn ei chynnig i'r banc cymunedol yn y dyfodol.

Mae'r Pwyllgor hefyd yn gofyn i Lywodraeth Cymru gadarnhau p'un a yw'n hyderus y bydd y cynnig o greu Banc Cambria, mewn gwirionedd, yn cynnig gwasanaethau bancio wyneb yn wyneb ar gyfer cwsmeriaid hŷn, anabl a'r rhai sy'n agored i niwed.


Dywedodd Russell George AC, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau

"Dro ar ôl tro, rydym yn clywed am gynnydd syfrdanol yn nifer y banciau a'r peiriannau ATM sy'n cael eu cau ledled Cymru. Nid yw'n broblem newydd, ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae gweld colli'r gwasanaethau hyn yn taro cymunedau'n galed.

"Yn ogystal â'r trafferthion amlwg yn sgil colli banciau a pheiriannau arian parod, mae pobl hŷn a phobl fregus nad ydynt yn defnyddio gwasanaethau bancio ar-lein yn wynebu problemau, ac mae colli gwasanaethau o'r fath yn ergyd i'r stryd fawr ac i fusnesau bach.

"Mae ein pwyllgor yn gytûn na allwn eistedd yn ôl ac anwybyddu'r broblem, ac er bod llawer o elfennau'r mater hwn yn fater i Lywodraeth y DU, mae dulliau sylweddol y gallai Llywodraeth Cymru eu defnyddio.

"Dylai Llywodraeth Cymru fod yn edrych ar y ffordd orau o ddarparu peiriannau arian parod rhad ac am ddim i'w defnyddio, gan weithio gyda sefydliadau fel LINK, i gryfhau'r rhwydwaith.

"Gall Llywodraeth Cymru hefyd ystyried newid rheolau cynllunio i amddiffyn cyfleusterau bancio a chynnwys yr angen am fanciau yn eu gwaith ar adfywio canol trefi.

"Mae'r cynnig i greu banc cymunedol yn un sy'n werth ei ystyried, fodd bynnag rydym wedi clywed peth tystiolaeth sy'n peri pryder, yn cwestiynu dichonolrwydd prosiect o'r fath ac efallai nad hwn yw'r defnydd gorau o arian cyhoeddus i ddatrys y broblem. Clywsom syniadau eraill sut y gall darparwyr gwasanaethau bancio gydweithredu i ddarparu gwasanaethau y mae angen dirfawr amdanynt.

"Clywsom fod banciau yn cau canghennau oherwydd y gost o'u cadw ar agor mewn ardaloedd lle mae nifer isel o ymwelwyr – byddai hyn hefyd yn her sylweddol i fanc cymunedol newydd sy'n darparu gwasanaethau wyneb yn wyneb.

"Nid yw Cymru'n barod i stopio defnyddio arian parod, ac nid yw bancio ar-lein yn addas neu'n bosibl i bawb. Mae ein hadroddiad heddiw yn cynnwys nifer o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru a gobeithiaf y byddant yn cymryd camau i amddiffyn yr hyn sydd ar ôl o'n rhwydwaith gwerthfawr o fanciau."

 


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Mynediad at Fancio (PDF, 768 KB)