Angen gwella Mesur Arfaethedig y Gymraeg er lles pawb yng Nghymru
23 Gorffennaf 2010
Mae’r pwyllgor trawsbleidiol o Aelodau’r Cynulliad sy’n gyfrifol am graffu ar Fesur Arfaethedig y Gymraeg wedi galw am newidiadau pellgyrhaeddol i’r gyfraith ddrafft.
Er bod y Pwyllgor yn cytuno mewn egwyddor â nod y Mesur arfaethedig, credir bod angen “gwella neu newid” rhai agweddau ar y gyfraith.
Dywedodd Val Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Rydym yn cefnogi’r angen am ddeddfwriaeth i ddiweddaru a moderneiddio fframwaith y ddeddfwriaeth ar y Gymraeg sydd eisoes yn bodoli.
“Wrth wneud hyn, rydym wedi nodi’r gefnogaeth am y cam hwn gan ymgynghorwyr, ond rydym yn cydnabod bod llawer yn credu bod angen gwella neu newid rhai agweddau ar y ddeddfwriaeth.”
Ymysg y newidiadau yr hoffai’r Pwyllgor eu gweld yw datganiad clir o egwyddor yn y Mesur arfaethedig y bydd modd mesur llwyddiant y ddeddfwriaeth yn ei erbyn.
Ychwanegodd Mrs Lloyd: “Yn ein barn ni, mae datganiad clir o egwyddor ar goll o’r Mesur arfaethedig.
“Credwn fod angen cynnwys datganiad cyffredinol yn y Mesur arfaethedig sy’n datgan yn glir mai diben y ddeddfwriaeth yw hyrwyddo a datblygu’r Gymraeg, yn ogystal â chynnal cefnogaeth ac ewyllys da’r rhai nad ydynt yn siarad yr iaith.”
Mae’r newidiadau eraill yr hoffai’r Pwyllgor eu gweld yn cynnwys:
datganiad clir yn adran un o’r Mesur arfaethedig sy’n datgan mai Cymraeg a Saesneg yw ieithoedd swyddogol Cymru;
darpariaeth yn y Mesur arfaethedig sy’n golygu y bydd Comisiynydd y Gymraeg yn cael ei enwebu gan Brif Weinidog Cymru ac yna’n cael ei gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol;
bod y Gweinidog yn adolygu’r darpariaethau yn y Mesur arfaethedig sy’n caniatáu rheolaeth gan Weinidogion dros Gomisiynydd y Gymraeg;
y dylai un o bwyllgorau’r Cynulliad graffu’n flynyddol ar y gyllideb ar gyfer rheoleiddio a hyrwyddo’r Gymraeg;
y dylai aelodau’r Panel Cynghori gael eu henwebu gan Weinidogion Cymru ac yna eu cymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol;
dylai bod dyletswydd i ymgynghori â sefydliadau ar reoliadau sy’n pennu safonau;
rhaid i Gomisiynydd y Gymraeg hefyd ymgynghori â’r cyhoedd wrth gynnal ymchwiliad i safonau;
er mwyn eglurder a chywirdeb, ac yn ychwanegol i bwerau Comisiynydd y Gymraeg, dylid ymdrin ag unrhyw faterion sy’n ymwneud â rhyddid unigolyn i ddefnyddio’r Gymraeg mewn deddfwriaeth cysylltiadau hiliol a deddfwriaeth cydraddoldeb sydd eisoes yn bodoli.