Angen Gwelliannau Sylweddol i Gynllunio Amaethyddiaeth Wedi Brexit

Cyhoeddwyd 08/01/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 08/01/2019

Angen gwelliannau sylweddol i gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer amaethyddiaeth wedi Brexit

cows-grazing 

Adroddiad Pwyllgor NHAMG ar Fil Amaethyddiaeth Llywodraeth y DU

Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad Cenedlaethol wedi dweud bod angen gwelliannau sylweddol i Fil Amaethyddiaeth y DU cyn gofyn i'r Cynulliad gytuno arno.

Y Cynulliad sy'n gyfrifol am amaethyddiaeth yng Nghymru. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i bwerau penodol gael eu cynnwys ym Mil y DU i'w galluogi i ddileu taliadau uniongyrchol i ffermwyr fesul cam a chyflwyno cynlluniau cymorth ariannol newydd.

Nid yw Bil y DU yn cynnwys rôl i'r Cynulliad. Effaith hyn yw y bydd gallu'r Cynulliad i graffu ar gymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer amaethyddiaeth yn gyfyngedig iawn ar adeg o ansicrwydd a newid digynsail. Mynegodd rhanddeiliaid, gan gynnwys undebau ffermio, bryderon am hyn pan roddwyd tystiolaeth ganddynt i'r Pwyllgor. Mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yn dweud y byddai wedi ffafrio Bil Cymru, yn ddarostyngedig i waith craffu llawn gan y Cynulliad, yn hytrach na dilyn y drefn drwy Fil Amaethyddiaeth y DU.

Mae'r Pwyllgor yn credu mai'r ffordd fwyaf priodol o ddeddfu mewn maes sydd mor arwyddocaol i Gymru yw drwy Fil Cynulliad, yn hytrach na Bil y DU. Er bod y Pwyllgor o'r farn y gall Bil Amaethyddiaeth y DU ddarparu sicrwydd i'r sector yn y tymor byr, mae ganddo bryderon difrifol ynghylch y darpariaethau ehangach i Gymru yn y Bil.

Ers dros 40 mlynedd, mae amaethyddiaeth yng Nghymru wedi'i hariannu drwy gyllid PAC gan yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r Pwyllgor o'r farn bod angen eglurder ynghylch cymorth ariannol yn y cyfnod yn syth ar ôl Brexit ac mae'n credu y dylai taliadau uniongyrchol i ffermwyr barhau, o leiaf yn y tymor byr. 

Bydd Bil arfaethedig y DU yn galluogi Llywodraeth Cymru i gyflwyno systemau cymorth ariannol newydd ar gyfer amaethyddiaeth ar ôl Brexit. Mewn tystiolaeth i'r Pwyllgor, ni roddodd Llywodraeth Cymru wybodaeth am y gost o gyflwyno cymorth ariannol newydd arall, heblaw am ddweud nad "oes unrhyw oblygiadau ariannol uniongyrchol". Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor yn pryderu bod Llywodraeth y DU, yn y cyfamser, wedi rhybuddio am "wariant sylweddol" ar gyfer ei bwerau cyfatebol.

Dywedodd Mike Hedges AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

"Ers dros bedwar degawd, penderfynwyd ar bolisi amaethyddol yn bennaf ar lefel yr UE. Mae Brexit yn gyfle i Lywodraeth Cymru ailystyried y ffordd y cefnogir y sector amaethyddiaeth yng Nghymru. Mae barn wahanol ymhlith rhanddeiliaid ac ar draws y Cynulliad am y ffordd orau o wneud hyn."

"Fodd bynnag, mae consensws y dylai ffermwyr Cymru barhau i gael cymorth ariannol dan y cynlluniau PAC presennol yn y cyfnod yn syth ar ôl Brexit. Er ein bod yn cefnogi cynnwys darpariaethau ym Mil y DU i ganiatáu ar gyfer hyn, mae gennym amheuon cryf ynghylch darpariaethau eraill yn y Bil a fydd yn cyflwyno newidiadau sylfaenol a pharhaol i bolisi amaethyddol yng Nghymru."

"Y ffordd fwyaf priodol o ddeddfu ar bwnc mor arwyddocaol â dyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru yn y tymor hir yw drwy Fil Cynulliad. Dylai Llywodraeth Cymru wneud ymrwymiad y bydd amser ar gael yn y rhaglen ddeddfwriaethol i gyflwyno Bil Amaethyddiaeth Cymru a'i basio cyn diwedd tymor y Cynulliad hwn."

Mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i gwblhau a chyhoeddi asesiad effaith ar draws y sector cyn dechrau dileu taliadau uniongyrchol i ffermwyr fesul cam – rhywbeth sydd, yn amlwg, yn achosi pryder mawr i ffermwyr, fel y gwelir yn ei ymchwiliad gan undebau ffermwyr a rhanddeiliaid eraill.

 

 


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â Bil Amaethyddiaeth y DU (PDF, 1 MB)