Angen gwneud rhagor i sicrhau bod diwygio addysg ôl-16 yng Nghymru yn cael gymaint o effaith â phosibl
17 Mehefin 2010
Mae rhwystrau i’w goresgyn os yw menter Llywodraeth Cymru i wella darpariaeth ddysgu yng Nghymru am wneud cynnydd effeithiol, yn ôl Pwyllgor trawsbleidiol o Aelodau’r Cynulliad.
Mae’r Pwyllgor Menter a Dysgu’r wedi gorffen ei ymchwiliad i agenda weddnewid Llywodraeth Cymru – cynllun arloesol i weddnewid darpariaeth addysg yng Nghymru.
Canfu’r Pwyllgor, er gwaethaf cefnogaeth gyffredinol eang i’r agenda – sydd wedi ehangu’r dewisiadau dysgu i fyfyrwyr ôl-16 – bod pryderon yn bodoli ynghylch rhoi’r agenda ar waith, yn cynnwys cyfathrebu gwael sy’n golygu bod rhai sefydliadau addysgol yn teimlo allan ohoni.
Mae pryderon eraill y Pwyllgor yn cynnwys lefelau anghyson o gydweithredu rhwng darparwyr addysgu ar ledled Cymru, a gorbwyslais ar oblygiadau strwythurol yr agenda yn hytrach na safonau.
Dywedodd Gareth Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae’r Pwyllgor yn gwerthfawrogi mai dyddiau cynnar yw’r rhain o ran rhoi’r agenda ar waith ac yn cydnabod bod cefnogaeth gyffredinol i amcanion yr agenda.
“Fodd bynnag, mae angen mynd i’r afael â rhai materion os yw’r agenda am lwyddo i sicrhau bod 95% o bobl ifanc yn barod ar gyfer gwaith medrau uchel neu addysg uwch erbyn 2015.
“Roedd tystiolaeth a gafwyd yn cyfeirio at lefelau amrywiol o gydweithredu rhwng darparwyr addysgu ac at ymgynghori annigonol â rhanddeiliaid – sydd wedi arwain at anfodlonrwydd a dicter mewn rhai ardaloedd.
“Er nad ydym yn cyhoeddi adroddiad o’n hymchwiliad, rydym heddiw wedi ysgrifennu llythyr agored at y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, yn gofyn iddo ymateb i’n casgliadau. Mae’r llythyr wedi ei ddrafftio mewn ysbryd o awydd cyffredin y bydd yr agenda yn cyflawni ei photensial ac y bydd Cymru’n dod yn enghraifft bositif o ddarpariaeth addysg hollgynhwysol ac effeithiol.
“Rydym yn edrych ymlaen at gael ymateb y Gweinidog, a byddwn yn ei gyhoeddi yn ei dro.”