Angen i'r GIG allu gwrthsefyll pwysau'n well yn gyffredinol i ymdopi â phwysau'r gaeaf yng Nghymru - meddai un o pwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 09/12/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/12/2016

​Dywed un o pwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol fod angen i'r GIG allu gwrthsefyll pwysau'n well drwy gydol y flwyddyn, ac mai dyna'r ffordd orau o ymdopi â'r pwysau cynyddol ar wasanaethau dros gyfnod y gaeaf.

Mae'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon wedi bod yn asesu pa mor barod yw ysbytai, meddygfeydd a chlinigau Cymru wrth i'r tymheredd ostwng.

Eleni, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi hwb i'r gyllideb â £50 miliwn yn ychwanegol ar gyfer cyfnod y gaeaf.

Roedd y Pwyllgor yn pryderu bod ymdrechion yr adeg hwn o'r flwyddyn yn tueddu i ganolbwyntio'n fwy ar geisio rheoli'r pwysau ar y gwasanaeth yn hytrach na newid yr holl system - gan ddarparu gwasanaethau'n wahanol a lleihau'r pwysau a ddaw yn sgil gofal heb ei drefnu.

Awgrymodd tystiolaeth bellach fod y prif ffocws ar baratoi'r gwasanaethau iechyd ar gyfer y gaeaf, â'r sylw a gaiff ei roi i ofal cymdeithasol yn fwy cyfyngedig. Daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad yw hyn yn rhoi digon o gydnabyddiaeth i rôl hollbwysig y sector gofal cymdeithasol. Mae hyn o ran atal pobl rhag gorfod mynd i'r ysbyty dros gyfnod y gaeaf, yn arbennig yn achos pobl hŷn, ac o ran sicrhau bod cleifion yn gwella ac yn gadael yr ysbyty'n brydlon.
Mae am weld rhagor o ffocws ar integreiddio'r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys y modd y maent yn cynllunio a darparu gwasanaethau.

Pwysleisiwyd nifer isel y staff rheng flaen a gafodd frechiad y ffliw hefyd i fod yn bryder, ac ystyriai'r Pwyllgor y byddai cael y frechiad yn fesur ataliol a fyddai'n helpu cynnal gwasanaethau. Mae'r Aelodau am i Lywodraeth Cymru a'r gwasanaethau iechyd osod targedau sy'n fwy uchelgeisiol, ac ystyried pa mor effeithiol yw eu hymgyrchoedd cyhoeddusrwydd.

Dywedodd Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, ei bod “yn amlwg o'r dystiolaeth a glywsom nad yw llawer o'r elfennau sy'n rhoi GIG Cymru o dan bwysau yn gyfyngedig i un cyfnod neu dymor, ond eu bod yn hytrach yn bresennol gydol y flwyddyn.

"Serch hynny, mae'n amlwg hefyd bod cynnydd sydyn a thymhorol yn y galw, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf, sy'n rhoi system sydd eisoes yn gweithio i'w heithaf o dan ragor o straen.

"O ganlyniad, yn sylfaenol, mae cynllunio at y cyfnod hwn yn golygu ceisio cyfyngu ar effeithiau'r cynnydd sydyn hwn yn y galw ond gan ddal i ddarparu gwasanaethau craidd eraill, gan gynnwys elfennau dewisol.

"I'r perwyl hwnnw, fel mater o flaenoriaeth, rydym am weld ffocws amlwg ar integreiddio'r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys y modd y maent yn cynllunio a darparu gwasanaethau.

"Rydym hefyd yn pryderu bod cyn lleied o staff wedi cael brechiad y ffliw, gan fod y brechiadau hynny'n allweddol wrth gynnal gwasanaethau ar adegau o bwysau mawr.

"Hoffem weld Llywodraeth Cymru a'r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yn gosod targedau sy'n fwy uchelgeisiol yn hyn o beth, ynghyd ag asesu eu hymgyrchoedd cyhoeddusrwydd i fesur sut y gall yr elfen honno gael ei gwella.”

Gwnaeth y Pwyllgor naw o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Dylai Ysgrifennydd y Cabinet, fel mater o flaenoriaeth, ganolbwyntio ar sicrhau rhagor o integreiddio rhwng y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys cynllunio a darparu gwasanaethau;
  • Dylai Ysgrifennydd y Cabinet sicrhau bod trefniadau wedi cael eu gwneud i ddadansoddi pa mor effeithiol yw holl ymgyrchoedd Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag iechyd yn nhymor y gaeaf, a chyhoeddi'r canlyniadau'n brydlon; a
  • Dylai Ysgrifennydd y Cabinet adrodd yn ôl i'r Pwyllgor ar ddiwedd y chwarter nesaf â manylion y cynnydd a wnaed yn erbyn targedau yn sgil y buddsoddiad o £50 miliwn a roddwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer pwysau'r gaeaf eleni.

Bydd yr adroddiad yn awr yn cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru.