Angen llais cryf ac unedig ar Fil Cymru drafft, yn ôl cadeirydd un o bwyllgorau’r Cynulliad

Cyhoeddwyd 11/01/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/01/2016

Mae angen i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fod yn gryf ac unedig wrth lunio dyfodol cyfansoddiadol Cymru, yn ôl Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

Ddydd Mercher 13 Ionawr, bydd David Melding AC, sydd hefyd yn Ddirprwy Lywydd y Cynulliad, yn arwain dadl ar adroddiad y Pwyllgor ar Fil Cymru drafft Llywodraeth y DU.

Yn ei adroddiad ar y Bil drafft, dywedodd y Pwyllgor ei bod yn gyfraith ‘a wnaed ar gyfer Cymru, nid gyda Chymru’, ac y byddai’r Bil, os caiff ei basio, yn camu’n ôl o ran y pwerau sydd eisoes wedi’u datganoli i Gymru. Hefyd, dywedodd y Pwyllgor fod y rhestr o bwerau a gedwir yn rhy hir, gan ddod i’r casgliad y dylid diwygio’r Bil os yw am gyflawni ei amcan o sefydlu setliad cyfansoddiadol sy’n para i Gymru.

Ddydd Mercher, bydd y Cynulliad cyfan yn trafod yr adroddiad ac yn pleidleisio ar gyfres o gynigion ynghylch ei argymhellion.

Dywedodd David Melding AC, “Mae’r ddaddl ddydd Mercher yn gyfle i leisio barn gryf ac unedig ar Fil Cymru drafft a setliad cyfansoddiadol Cymru yn y dyfodol.

“Dyma gyfle i basio deddfwriaeth a allai ddod â’r drafodaeth hon i ben, ond mae angen cydweithio agosach rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol.

“Mae ein hadroddiad yn mynegi pryderon adeiladol gydag argymhellion synhwyrol ynghylch y rhestr o bwerau a gedwir, y profion angenrheidrwydd a’r angen am awdurdodaeth benodol i Gymru.

“Rwy’n edrych ymlaen at glywed yr hyn y bydd gan fy nghyd-Aelodau i’w ddweud yn ystod y ddadl.”

Gellir gwylio’r ddadl yn ystod trafodion y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher naill ai o’r oriel gyhoeddus yn y Senedd neu’n fyw ar-lein ar www.senedd.tv.

Agenda lawn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys cynigion y pleidleisir arnynt yn ystod y ddadl.

Rhagor o wybodaeth am adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Fil Cymru drafft.
 
Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol