Angen mynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig â defnyddio sylweddau seicoweithredol newydd yn ôl un o Bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 18/03/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/03/2015

Mae adroddiad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad Cenedlaethol wedi amlinellu nifer o gamau sydd angen eu cymryd i fynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig â defnyddio sylweddau seicoweithredol newydd ("NPS").

Canfu'r Pwyllgor fod NPS, neu "gyffuriau penfeddwol cyfreithlon" fel y cânt eu hadnabod, yn gamarweiniol weithiau, yn cael eu marchnata yn gyffredin fel dewisiadau amgen mwy diogel a chyfreithlon i gyffuriau anghyfreithlon. Mae gwybodaeth a ddarparwyd i'r ymchwiliad yn dangos y gall y cyffuriau hyn fod yr un mor gaethiwus a pheryglus â chyffuriau anghyfreithlon, gyda rhai defnyddwyr cyffuriau yn nodi y gall eu sgîl-effeithiau fod yn waeth na heroin a chocên.

Dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

"Cafodd 60 o farwolaethau yn ymwneud â'r cyffuriau hyn eu cofnodi yng Nghymru a Lloegr yn ystod 2013, sydd 15 y cant yn uwch na'r flwyddyn flaenorol. Er bod nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio alcohol a sylweddau eraill yn uwch, rydym yn pryderu o glywed bod y defnydd o sylweddau seicoweithredol newydd (NPS) wedi tyfu yng Nghymru, ac mewn mannau eraill, yn y blynyddoedd diwethaf.

"Mae'r niwed iechyd a chymdeithasol a achosir gan y cyffuriau hyn yn peri pryder, ac yr ydym yn awyddus i daflu goleuni ar y camau ymarferol sydd angen eu cymryd i alluogi pobl i wneud penderfyniadau mwy gwybodus ynglŷn â defnyddio'r sylweddau hyn.

"Rydym yn credu y dylai Llywodraeth y DU symud mor gyflym â phosibl i weithredu ar wahardd cyflenwi'r cyffuriau hyn. Fodd bynnag, mae'n amlwg o'n hymchwiliad na fydd newid y gyfraith yn datrys y broblem yn gyfan gwbl - mae gwell addysg mewn ysgolion ynghylch camddefnyddio sylweddau, codi ymwybyddiaeth y cyhoedd, a gwell gwasanaethau triniaeth yr un mor bwysig er mwyn sicrhau bod nifer y defnyddwyr yng Nghymru yn cael ei leihau.

"Mae angen i'r cyhoedd fod yn ymwybodol nad yw'r cyffuriau hyn a elwir yn gyffuriau penfeddwol cyfreithlon yn ddiogel nac yn gyfreithlon yn aml iawn. Gall eu sgîl-effeithiau fod mor ddifrifol â'r rhai a achosir gan gyffuriau anghyfreithlon, a gallant fod yr un mor gaethiwus a difrodol hefyd. "

Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar yr ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd (PDF, 869KB)