Angen newidadau i alluogi’r Archwilydd Cyffredinol i ofyn i ymestyn y cyfnod statudol ar gyfer archwilio cyfrifon

Cyhoeddwyd 26/05/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/05/2017

Angen newidadau i alluogi’r Archwilydd Cyffredinol i ofyn i ymestyn y cyfnod statudol ar gyfer archwilio cyfrifon

Dylai Archwilydd Cyffredinol Cymru allu ymestyn y cyfnod statudol ar gyfer adrodd ar gyfrifon mewn ‘achosion prin’, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae’r Pwyllgor Cyllid wedi bod yn ymchwilio sut methodd yr Archwilydd Cyffredinol y dyddiad cau statudol ar gyfer adrodd ar gyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2015/16 o fwy na dau fis.

Yn ei dystiolaeth i’r Pwyllgor, dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol fod angen rhagor o wybodaeth arno ynghylch dyfarnu contract pren gwerth £39 miliwn cyn iddo allu dod i farn ar y cyfrifon.

O ganlyniad i roi digon o amser i drydydd partïon ymateb i’r ceisiadau am wybodaeth, methwyd y dyddiad cau statudol. Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol fod sefyllfa o’r fath wrth archwilio cyfrifon yn brin iawn.

Gan dderbyn bod sefyllfa Cyfoeth Naturiol Cymru yn un brin iawn, cydnabu’r Pwyllgor hefyd fod angen bod yr Archwilydd Cyffredinol yn gallu ymestyn y cyfnod statudol o bedwar mis ar gyfer adrodd ar gyfrifon mewn rhai achosion, ac y dylid gwneud newidiadau i ganiatáu hyn.

“Disgrifiodd yr Archwilydd Cyffredinol y rheswm dros fethu’r dyddiad cau statudol ar gyfer adrodd ar gyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru fel ‘achos prin’,” dywedodd Simon Thomas AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid.

“Mae hyn yn dangos bod angen trefn i ymestyn y cyfnod statudol, fel sydd yn Lloegr, rhag ofn y bydd achos tebyg yn codi eto.”

Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru.

Dywedodd Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus:

“Rôl y Pwyllgor Cyllid yw goruchwylio Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru.

“Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn trafod y materion y cododd yr Archwilydd Cyffredinol yn ei adroddiad ar gyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru.

“Rydym wedi cymryd tystiolaeth ar y mater hwn a byddwn yn adrodd maes o law.”