Angen strategaeth glir i fanteisio ar gronfeydd datblygu yr Undeb Ewropeaidd, medd adroddiad gan y Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 16/02/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Angen strategaeth glir i fanteisio ar gronfeydd datblygu yr Undeb Ewropeaidd, medd adroddiad gan y Cynulliad Cenedlaethol

16 Chwefror 2011 1

Gallai Cymru hawlio miliynau o bunnoedd ychwanegolo gronfeydd ymchwil a datblygu yr UE drwy weithredu’n fwy strategol, medd adroddiad newydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Yn ol y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol, sy’n bwyllgor trawsbleidiol, gallai Cymru ddringo cadwyn gwerth yr economi wybodaeth pe bai Llywodraeth Cynulliad Cymru, prifysgolion Cymru, y sector preifat a llywodraeth leol ynsianelu eu hymdrechion mewn modd mwy strategol er mwyn cael mynediad i’r adnoddau hyn.

Mae’r cronfeydd hyn yn cael eu gweithredu ar wahan i gronfeydd y Polisi Amaethyddol Cyffredin a chronfeydd strwythurol yr UE. Maent yn llai adnabyddus ac nid ydynt yn denu’r sylw y maent yn eu haeddu, medd y Pwyllgor.

Gan fod dyfodol cronfeydd strwythurol yr UE ar ol 2013 yn annelwig, teimla’r Pwyllgor nad oes digon yn cael ei wneud i fanteisio ar ffynonellau eraill o gyllid, ac yn benodol, y ffrwd ymchwil a datblygu technolegol, sef cronfa FP7, a fydd yn cael ei disodli maes o law gan gronfa FP8.

Dywedodd Rhodri Morgan AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Canfu’r ymchwiliad hwn bod gan Gymru le i wella, heb os, yn y cyd-destun hwn.

“Byddai meithrin dull mwy strategol o annog cyfranogiad mewn rhaglenni perthnasol yr UE yn helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei hamcanion, a hefyd yn arwain at gynnydd o ran diwallu’r nod cyffredinol Ewropeaidd o gynyddu gwariant ar ymchwil a datblygu yn sylweddol ar draws yr UE, fel yr amlinellir yn strategaeth Ewrop 2020.

“Cyhoeddir yr adroddiad hwn wrth i’r drafodaeth ar gyllideb yr UE ar gyfer y dyfodol ddechrau o ddifri, a chyn i’r Comisiwn Ewropeaidd gyflwyno ei gynigion ar gyfer rhaglenni cyllid yr UE ar ol 2013.

“Mae uchelgais Cymru i ddatblygu economi wybodaeth gyflawn yn golygu bod yn rhaid i Gymru fod yn rhan o’r drafodaeth honno, yn ogystal a bod yn rhan o feddylfryd Ewrop wrth i’r rhaglenni newydd hyn gael eu hystyried.”

DIWEDD