Ar beth y dylai Llywodraeth Cymru wario £16 biliwn?

Cyhoeddwyd 20/07/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/07/2016

​Mae pobl yn cael cyfle i ddweud sut y dylai Llywodraeth Cymru wario ei chyllideb o £16 biliwn yn 2017-18 mewn ymgynghoriad newydd gan Bwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol.

Bydd y Pwyllgor yn trafod y cynigion manwl pan gaiff y gyllideb ddrafft ei chyhoeddi ym mis Hydref.

Dyma rai o'r cwestiynau pwysig y bydd Aelodau'r Cynulliad yn eu gofyn:

  • Pa ymrwymiadau gwariant a blaenoriaethau hoffech chi eu gweld yng nghyllideb ddrafft 2017-18 er mwyn sicrhau cynnydd o ran gwariant ataliol ac, yn arbennig, ym maes iechyd a gofal cymdeithasol?
  • Pa ymrwymiadau gwariant a blaenoriaethau hoffech chi eu gweld yng nghyllideb ddrafft 2017-18 er mwyn sicrhau cynnydd o ran lleihau tlodi a pharatoi ar gyfer poblogaeth sy'n heneiddio?
  • A ydych chi'n teimlo bod y symiau sydd wedi'u dyrannu gan Lywodraeth Cymru wedi'u seilio digon ar dystiolaeth?

Bydd y Pwyllgor hefyd yn canolbwyntio ar sut y mae Llywodraeth Cymru a chyrff sy'n cael eu hariannu gan y Llywodraeth yn paratoi ar gyfer Bil Cymru, a fydd yn golygu, os yw'n cael ei basio, trosglwyddo pwerau i Gymru i godi trethi mewn meysydd fel y dreth stamp ac ardollau tirlenwi.

Dywedodd Simon Thomas AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid: “Bydd yr ychydig flynyddoedd nesaf gyda'r mwyaf pwysig yn natblygiad Cymru.

“Wrth i bwerau i godi refeniw gael eu datganoli i Gymru, ac o gofio nad yw goblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd eto'n glir, mae angen Llywodraeth sydd â diben a chyfeiriad clir ar Gymru.

“Byddwn yn edrych ar y gyllideb ddrafft i asesu a yw'n gallu sicrhau'r gwerth gorau posibl i Gymru.

“Cyn cyrraedd y cam hwnnw, mae'n bwysig i ni asesu sut y mae Llywodraeth Cymru yn perfformio yn erbyn ei amcanion ei hun, ac mae angen i bobl ddweud wrthym beth yw eu barn nhw am hyn.

“Dyna pam ein bod yn casglu safbwyntiau a syniadau nawr, drwy gyngor arbenigwyr, awdurdodau perthnasol a holiadur ar-lein, fel y gall pobl gyfrannu at ein hymchwiliad a helpu i lywio ein hargymhellion.”

Mae manylion ymgynghoriad yr ymchwiliad, gan gynnwys linc i'r holiadur ar-lein, ar gael ar dudalennau'r Pwyllgor Cyllid ar y we a chyfrif Twitter @SeneddCyllid.