Araf yw'r arweiniad gan Lywodraeth Cymru o ran ceir trydan – un o bwyllgorau'r Cynulliad yn nodi ei ganfyddiadau cychwynnol

Cyhoeddwyd 13/03/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/03/2019

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn araf wrth ddangos arweiniad o ran gwella'r ddarpariaeth ceir trydan yng Nghymru, yn ôl canfyddiadau cychwynnol ymchwiliad gan un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae'r themâu sy'n dod i'r amlwg yn sgîl ymchwiliad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn dangos y gallai Cymru elwa'n fawr o gynyddu'i defnydd o geir trydan, ond y byddai hynny'n gofyn am newidiadau sylweddol i'r seilwaith pŵer a'r seilwaith ffyrdd presennol. Gallai'r rhain helpu i ddileu rhwystrau, gan gynnwys pryder ynghylch cyrraedd pen y daith, pan mae pobl yn poeni a allant gwblhau taith gyflawn ai peidio.

Daeth y Pwyllgor i'r casgliad hefyd na ddylai unrhyw newid tuag at ddiwylliant ceir trydan eithrio'r bobl dlotaf yng Nghymru.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fuddsoddiad o £2 filiwn i wella'r seilwaith pwyntiau gwefru, ond mae'r Pwyllgor yn cwestiynu a yw hynny'n ddigon, ac mae'n gofyn beth mae Gweinidogion yn ei wneud i annog buddsoddiad gan y sector preifat, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

Wrth gyhoeddi ei gasgliadau cychwynnol yn awr, mae'r Pwyllgor yn awyddus i glywed gan ddefnyddwyr cerbydau, cyflenwyr ac unrhyw un sydd â diddordeb yn y maes i helpu i lywio ei adroddiad terfynol, gan gynnwys unrhyw argymhellion a wnaiff.

 

Dywedodd Russell George AC, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: "Mae'n amlwg o'n trafodaethau cychwynnol fod y seilwaith cerbydau trydan yng Nghymru yn gyfyngedig ac y byddai'n ei chael hi'n anodd i ymdopi â chynnydd sylweddol yn y defnydd ohono.

"Daw yn amlwg hefyd pa fanteision y byddai chwyldro ceir trydan yn eu gwireddu o ran lleihau allyriadau carbon deuocsid a diogelu amgylchedd Cymru.

"Credwn fod diffyg arweiniad yn hyn o beth gan Lywodraeth Cymru hyd yma.

"Wrth nodi ein canfyddiadau cychwynnol, rydym yn gobeithio dechrau sgwrs o ddifrif rhwng y Llywodraeth, rhanddeiliaid a'r cyhoedd yng Nghymru ar y darlun o ran cerbydau trydan yng Nghymru yn y dyfodol, a beth y byddai ei angen i'w gyflawni.

"Byddwn yn annog unrhyw un i edrych ar ein casgliadau cychwynnol ac i gyfrannu at y pynciau trafod sy'n deillio ohonynt, er mwyn helpu i nodi argymhellion ein hadroddiad terfynol."

Gall pobl sy'n dymuno cyfrannu wneud hynny drwy sianel drafodaeth ar-lein a sefydlwyd ar gyfer yr ymchwiliad, neu ganfod rhagor o wybodaeth ar dudalennau'r Pwyllgor ar y we.

Cyhoeddir yr adroddiad terfynol yn ddiweddarach eleni.

 



Hoffem ni clywed gennych chi.

Gallwch chi ychwanegu’ch syniadau a’ch arbenigedd i’r ymchwiliad sy’n edrych ar beth fydd dyfodol cerbydau trydan yng Nghymru.

Ymunwch â’r drafodaeth ›