Arafwch a diffyg cyfeiriad yn llesteirio’r gwaith o ddatblygu gwasanaethau iechyd digidol

Cyhoeddwyd 05/07/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/07/2023   |   Amser darllen munudau

Nid yw cleifion na staff rheng flaen yn elwa ar y datblygiadau diweddaraf mewn data gofal iechyd a thechnoleg ddigidol, a hynny oherwydd diffyg strategaeth a chynllunio clir gan y corff sy’n gyfrifol am ddatblygu’r offer hyn - Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Mae Pwyllgorau’r Senedd wedi darganfod tystiolaeth o ansicrwydd ymhlith byrddau iechyd ac awdurdodau lleol ynghylch defnyddio rhai o’r gwasanaethau newydd a ddatblygir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Maen nhw hefyd yn pryderu am wariant ar brosiectau hyd yn hyn.

Yn ystod eu gwaith craffu ar y cyd ar Iechyd a Gofal Digidol Cymru, ychydig o sicrwydd a gafodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Phwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd ynghylch y disgwyliadau ar gyfer cyflawni rhai o brosiectau mawr y corff hwnnw, gan gynnwys System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS), Ap GIG Cymru ar gyfer cleifion, ac integreiddio gwasanaethau â systemau gofal cymdeithasol.

System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS)

Mae System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS) wedi’i ddatblygu fel un system a chofnod electronig a rennir sydd i’w defnyddio ar draws ystod eang o wasanaethau i oedolion a phlant. Y bwriad oedd y byddai pob un o’r 22 o awdurdodau lleol a’r saith bwrdd iechyd yng Nghymru yn ei rhoi ar waith.

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru’n dweud bod y system yn fyw mewn “19 allan o 29 o sefydliadau”. Ond, yn ystod gwaith craffu’r Pwyllgor, daeth yn amlwg nad yw’r sefydliadau sydd wedi ymrwymo i WCCIS yn ei ddefnyddio i’r un graddau nac wedi cyrraedd yr un man o ran y gwaith i gyflwyno’r system yn llawn. Mae problemau integreiddio a chysylltedd yn golygu nad yw rhai o’r byrddau iechyd yn bwriadu defnyddio’r system o gwbl. Ac ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, er enghraifft, y disgwyl yw y bydd yn cael ei chyflwyno mewn gwasanaethau iechyd meddwl yn unig i ddechrau.

Mae’r Pwyllgorau hefyd yn pryderu ynghylch pwy sy’n gyfrifol am arwain ar roi’r system flaenllaw hon ar waith, gan nodi bod Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn un o’r ddau Uwch-swyddog Cyfrifol ar gyfer y rhaglen a bod yr unigolyn hwnnw wedi ymgymryd â rôl Prif Weithredwr dros dro BIP Betsi Cadwaladr yn ddiweddar.

Nid yw'n glir ychwaith beth fydd WCCIS yn ei gyflawni gyda'r £12 miliwn ychwanegol y maent yn bwriadu ei wario yn y tair blynedd nesaf ac a yw'r gwaith a gwblhawyd hyd yn hyn wedi rhoi gwerth am arian.

Mae Russell George AS, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn rhybuddio y gallai diffyg cydweithredu â byrddau iechyd ac awdurdodau lleol beryglu’r rhaglen gyfan.

Dywedodd Russell George AS, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Rydym yn deall cymhlethdod a maint y rhaglen, ond yn ystod ein gwaith craffu ar Iechyd a Gofal Digidol Cymru ni chawsom sicrwydd ynghylch sawl mater sy’n ganolog i’r gwaith o gyflwyno WCCIS. Mae'r rhain yn cynnwys diffyg cynllunio clir a manwl ar gyfer y prosiect a diffyg eglurder ynghylch pwy sy'n gyfrifol am sicrhau bod y system yn cael ei defnyddio.

“Mae hefyd yn amlwg bod amharodrwydd ymhlith byrddau iechyd ac awdurdodau lleol i ymrwymo'n llawn i fanteisio ar WCCIS. Gallai hyn beryglu llwyddiant y prosiect cyfan gyda chanlyniadau i wasanaethau, clinigwyr a chleifion.

“Fel rhan o’n gwaith craffu parhaus, rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru am ddiweddariadau bob chwe mis ar y materion hyn, ac yn anad dim am eglurder ynghylch eu bwriadau ar gyfer y £12 miliwn a neilltuwyd i brosiect WCCIS ar gyfer y blynyddoedd i ddod.”

Asesiad realistig o gyflawniadau, yn erbyn gwaith sydd eto i'w wneud

Roedd y Pwyllgorau'n falch o weld tystiolaeth am lwyddiannau Iechyd a Gofal Digidol Cymru hyd yma – gan gynnwys y gwaith parhaus i gyflwyno Cofnod Gofal Nyrsio Cymru, y gwasanaethau a ddatblygwyd ar gyfer gefnogi'r ymateb i COVID-19 a gwelliannau i Borth Clinigol Cymru.

Fodd bynnag, yn eu hadroddiad byr, mae'r Pwyllgorau'n rhybuddio rhag gor-optimistiaeth ac yn annog pwyslais ar osod disgwyliadau realistig ac ar asesiadau realistig o'r cynnydd a wnaed yn gyffredinol.

Dywedodd Mark Isherwood AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus: 

“Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn sefydliad newydd o hyd. Mae gwaith sylweddol wedi’i wneud i roi strwythurau newydd ar waith, ac rydym yn cymeradwyo’r cynnydd sydd wedi’i wneud hyd yn hyn.

“Fodd bynnag, rydym am i Iechyd a Gofal Digidol Cymru fod yn dryloyw ynghylch yr heriau a'r risgiau sy'n gysylltiedig â’i gylch gwaith. Rydym yn cymeradwyo uchelgais a phositifrwydd, ond rydym yn rhybuddio rhag gor-optimistiaeth a ffocws ar ddathlu llwyddiannau ar draul asesu'n realistig yr hyn sydd angen ei gyflawni a sut mae angen blaenoriaethu'r agenda waith.”

 

Mwy am y stori hon

Darllen yr adroddiad

Ymchwiliad: Craffu ar Iechyd a Gofal Digidol Cymru