Araith y Dirprwy Lywydd i’r gynhadledd ‘Pwerau Deddfwriaethol Newydd yng Nghymru’ 2007

Cyhoeddwyd 13/11/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Araith y Dirprwy Lywydd i’r gynhadledd ‘Pwerau Deddfwriaethol Newydd yng Nghymru’ 2007

Rwy’n ddiolchgar iawn am y gwahoddiad caredig i siarad â chi heddiw ynglyn â Deddf Llywodraeth Cymru 2006 ac am y pwerau deddfwriaethol newydd y bydd yn eu rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Hoffwn longyfarch y trefnwyr am lunio rhaglen mor ysgogol.Heddiw, byddwch yn trafod y pwerau a roddwyd i’r Cynulliad o dan y Ddeddf ac yn asesu’r goblygiadau i’r sector busnes. Mae’n gyfle ardderchog i edrych ar sut y gallwch chi gyfrannu at lunio deddfwriaeth newydd ac at waith y Cynulliad ei hun wrth graffu ar waith y Llywodraeth.

Mae’r Ddeddf yn sicrhau bod egwyddorion bod yn agored ac yn dryloyw, sy’n nodweddiadol o’r adeilad y drws nesaf—y Senedd—hefyd yn cael eu defnyddio yn y prosesau deddfu newydd ac yn swyddogaethau cyffredinol Llywodraeth Cynulliad Cymru.Mae’r Ddeddf hon wedi newid y Cynulliad o fod yn sefydliad corfforaethol i fod yn ddau endid ar wahân, sef Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad, gyda’r pwerau angenrheidiol i greu democratiaeth dryloyw ac effeithiol. Mae gan Weinidogion swyddogaethau clir, sydd ar wahân i swyddogaethau’r Cynulliad. Serch hynny, maent yn atebol i’r Cynulliad am y camau a gymerant.

Yr hyn sy’n dod yn gyntaf o blith egwyddorion sylfaenol y Cynulliad newydd yw atebolrwydd llawn Gweinidogion y Llywodraeth i’r Cynulliad ac, yn y pen draw, i bobl Cymru. Mae confensiynau a gweithdrefnau newydd wedi’u creu i gyflawni hyn. Y darpariaethau mwyaf clir a osodwyd yw’r rhai sy’n ymwneud â chyllid yn Rhan 5 y Ddeddf, gan gynnwys yr egwyddor sylfaenol bod rhaid i Weinidogion geisio awdurdod y Cynulliad i ddefnyddio adnoddau. Dim ond o Gronfa Gyfunol Cymru y gall Llywodraeth Cymru dynnu adnoddau ariannol. Telir grant bloc Swyddfa Cymru bellach i’r gronfa honno, yn unol ag awdurdod statudol y Cynulliad a thrwy gadarnhad ar ôl cymeradwyaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.Felly, bydd trafodaethau llawn a phriodol, sy’n penderfynu ar gyllidebau, cyflenwi ac arian, yn dod yn fwyfwy arferol pan drafodir busnes y Llywodraeth. Bydd confensiynau eraill nad ydynt yn ymwneud â chyllid yn ymsefydlu eu hunain wrth i Weinidogion Llywodraeth Cymru gael eu rhoi ar brawf, fel ym mhob deddfwrfa, drwy gyfrwng cynigion o gerydd a diffyg hyder.

Yr ail egwyddor mawr yw y gall y Cynulliad Cenedlaethol basio’i ddeddfau ei hun.Cread Deddf Llywodraeth Cymru o’r broses Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor, sy’n arwain at ‘Fesurau’—sy’n gyfwerth â deddfwriaeth sylfaenol—yw rhan mwyaf arwyddocaol y Ddeddf. Mae’r Llywodraeth eisoes wedi cyhoeddi chwe gorchymyn deddfwriaethol drafft, a thri mesur.

Mae un Mesur—y Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol—a thri gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol—Anghenion Dysgu Ychwanegol, Diogelu’r Amgylchedd a Phlant Hawdd eu Niweidio—eisoes yn cael eu trafod mewn pwyllgor lle creffir arnynt.

Mae’n ddiddorol nodi nad dim ond y Llywodraeth sy’n gallu rhoi cynigion gerbron ar gyfer Mesurau a gorchmynion cymhwysedd deddfwriaethol. Gall Aelod Cynulliad unigol gymryd rhan mewn balot, a gynhelir bob rhyw ddeufis, ac sy’n rhoi cyfle i Aelodau gyflwyno’u gorchmynion deddfwriaethol neu eu Mesurau eu hunain. Mae hefyd yn rhoi’r cyfle i unrhyw un gyflwyno deddfwriaeth ddrafft drwy Aelodau Cynulliad unigol. Rwy’n annog y rheiny ohonoch sy’n dymuno cyflwyno deddfwriaeth newydd i wneud hynny. Byddwn yn cynnal balot rheolaidd drwy gydol pob blwyddyn Gynulliad, ar gyfer gorchmynion deddfwriaethol a Mesurau, felly ar gyfer y flwyddyn Gynulliad hon, rwy’n amcangyfrif y gallwn gynhyrchu hyd at ddeuddeg darn gwahanol o ddeddfwriaeth i’w hystyried.

Mae pedwar darn o ddeddfwriaeth eisoes yn mynd rhagddynt drwy’r system balot. Mae Ann Jones, yr Aelod dros Ddyffryn Clwyd, wedi cyflwyno gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol yn ymwneud â gorfodi gosod systemau chwistrellu dwr awtomatig yn y cartref. Mae’r Aelod dros Ogledd Caerdydd, Jonathan Morgan, wedi cyflwyno cynnig i ddeddfu fel y gellir diwygio’r polisi sy’n ymwneud â iechyd meddwl a darpariaethau ar gyfer y maes hwnnw. Mae’r cynigion am Fesurau yn gofyn am ddeddfwriaeth gan y Llywodraeth i ymwneud â phrydau bwyd ysgolion, ac am adolygu’r gweithdrefnau ar gyfer cau ysgolion.

Bydd hawl i bwyllgorau’r Cynulliad hefyd gyflwyno cynigion am ddeddfwriaeth. Yn wir, deilliodd y darn cyntaf o ddeddfwriaeth gan y Llywodraeth, ar anghenion arbennig, o adroddiad gan bwyllgor craffu ar y pwnc yn gynharach eleni.

Bydd ansawdd ac effeithiolrwydd y pwerau hyn yn dibynnu ar graffu dwfn ar unrhyw gynigion deddfwriaethol, a fydd yn cynnwys asesiad o’r manteision ariannol a chymdeithasol gydag adolygiad ôl-ddeddfwriaethol o ganlyniadau ac effeithiau. Bydd hyn yn dibynnu ar eglurder y drafftio ac ar ddarpariaeth gwybodaeth gyhoeddus gyflawn o’r pwerau a ddeddfir.Mae hyn yn golygu hefyd bod rhaid i’r Cynulliad weithio’n galetach nag o’r blaen i wneud yn siwr y creffir digon ar y deddfau arfaethedig newydd.

Fel y dywedais, mae gennym bum gwahanol Mesur neu orchymyn deddfwriaethol drafft yn y Cyfrin Gyngor sy’n cael eu hystyried mewn pwyllgor eisoes. Bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi Mesurau a gorchmynion cymhwysedd deddfwriaethol ychwanegol yn yr ychydig wythnosau nesaf, ac o ystyried cyflymder y ddeddfwriaeth yn dod drwy falot, yr ydym yn amcangyfrif y bydd o leiaf ddeunaw darn newydd o ddeddfwriaeth yn mynd rhagddynt erbyn diwedd blwyddyn gyntaf y trydydd Cynulliad. Fel y gallwch ddychmygu, mae hwn yn ymrwymiad mawr i’r Cynulliad Cenedlaethol; mae’n dipyn o her i’w Aelodau a’i staff, ac mae’n dipyn o her i sefydliad sydd, hyd yn hyn, heb greu deddfwriaeth sylfaenol. Byddwn yn adolygu effeithiolrwydd ein trefniadau ddiwedd mis Tachwedd, ac os oes gan unrhyw un ohonoch sylwadau i’w gwneud am effeithiolrwydd ein system graffu, cysylltwch â Swyddfa’r Llywydd i fynegi’ch barn.

Mae rôl y Cynulliad Cenedlaethol o graffu ar waith y Llywodraeth a’i ddal yn gyfrifol yn rhan sylfaenol o’r newidiadau sy’n digwydd yn y Cynulliad Cenedlaethol.Nid yw’r pwyllgorau newydd yn cynnwys Gweinidogion ymhlith eu haelodau ac mae ganddynt rôl ehangach sy’n debyg i rôl y pwyllgorau dethol yn San Steffan wrth drin a thrafod gwir effaith gwasanaethau mewn cyd-destun ac yn y fan a’r lle.Mae gan bob pwyllgor Cynulliad fynediad at Swyddfa Archwilio Cymru a fydd, rwy’n siwr, yn declyn gwerthfawr iddynt ei ddefnyddio. Mae’n hanfodol bod yr athroniaeth orau a’r arferion gorau o ran archwilio yn ysbrydoli gwaith y pwyllgorau.

Ers mis Mai, mae gennym Bwyllgor Cyllid fel conglfaen i’n gwaith craffu, er mwyn ystyried cynlluniau’r Llywodraeth ar wario a gweithredu. Mae’n un o blith sawl pwyllgor sydd â’r hawl i graffu.

Y prif bwyllgorau craffu eraill yw’r

  • Pwyllgor Menter a Dysgu;

  • Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol;

  • Pwyllgor Cynaliadwyedd, sy’n cynnwys newid yn yr hinsawdd, ynni, materion gwledig ac amaethyddiaeth, yr amgylchedd, a chynllunio; a’r

  • Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant, sy’n cynnwys tai, cynhwysiant cymdeithasol, diwylliant, y celfyddydau a chwaraeon.

Sefydlwyd y pwyllgorau hyn yn sgil argymhellion gan Syr Jeremy Beecham yn ei adroddiad ‘Creu’r Cysylltiadau’. Maent yn galw sefydliadau cyhoeddus i gyfrif ac yn craffu ar eu gwaith o safbwynt y dinesydd a’r defnyddiwr, yn hytrach nag o safbwynt y darparwr.

Yn olaf, hoffwn dynnu’ch sylw at rywbeth cyffrous newydd, sef y weithdrefn ddeisebu. Mae angen o leiaf ddeg enw i gefnogi deiseb sydd wedi’i chyflwyno ac yna i’w hystyried gan y Cynulliad, a fydd yn ymateb iddi.Ar hyn o bryd mae 16 deiseb ar y gweill felly mae hynny’n dangos bod y syniad eisoes wedi dal dychymyg y cyhoedd. Mae llawer o’r deisebau yn ymwneud â materion lleol megis newid enw ysgol yn ardal Rhondda Cynon Taf, adfer y rheilffordd rhwng Abertawe a’r Mwmbwls, ac ailagor gorsaf reilffordd Carno.Mae yna ddeisebau sydd hefyd o ddiddordeb cyffredinol i bawb yng Nghymru, megis y galwad i wahardd bagiau plastig ac adolygu taliadau deintyddol y gwasanaeth iechyd gwladol.

Yr wyf yn eich annog chi, fel busnesau a sefydliadau gwirfoddol i gymryd rhan yn y broses o graffu ar ddeddfwriaeth – yn ystod y cyfnod dechreuol pan fydd y ddeddfwriaeth yn cael ei llunio, ac yn ystod y broses graffu barhaus wrth i’r ddeddfwriaeth fynd rhagddi drwy’r gwahanol brosesau yn y Cynulliad. Mae’n siwr gennyf y bydd gennych eich pryderon a’ch sylwadau ynglyn â’r ddeddfwriaeth newydd ac ynglyn â’i heffaith a’i pherthnasedd.

Bydd gennych farn hefyd ar bolisi Llywodraeth Cynulliad Cymru a byddwch yn adnodd pwysig i’n pwyllgorau wrth iddynt asesu effaith y polisi.Yn ysbryd bod yn agored ac yn dryloyw, yr wyf yn eich gwahodd i fynegi’ch barn yn onest am y Cynulliad ac am ddeddfwriaeth arfaethedig Llywodraeth y Cynulliad ac i asesu ei heffaith ar y sector busnes yn benodol.

Dymunaf bob hwyl i chi am weddill y diwrnod a diolch yn fawr am y cyfle i’ch hannerch ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru.