Arbenigwyr cyfreithiol benywaidd yn ymweld â’r Senedd wrth i’r Llywydd groesawu rhagor o fodelau rôl benywaidd i’r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 17/05/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Arbenigwyr cyfreithiol benywaidd yn ymweld â’r Senedd wrth i’r Llywydd groesawu rhagor o fodelau rôl benywaidd i’r Cynulliad Cenedlaethol

17 Mai 2013

Mae Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi croesawu barnwyr benywaidd mwyaf blaenllaw’r DU i’r Senedd, gan gynnwys y Farwnes Brenda Hale, Ustus i Oruchaf Lys y DU.

Am y tro cyntaf ers ei sefydlu 10 mlynedd yn ôl, mae Cymdeithas Barnwyr Benywaidd y Deyrnas Unedig yn cynnal ei Chynhadledd Undydd a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol yng Nghymru, ac roedd cyfarfod â’r Llywydd yn adeilad urddasol y Senedd yn rhan hanfodol o’i rhaglen. Roedd y Llywydd yr un mor falch o groesawu modelau rôl mor flaenllaw i’r Senedd wrth iddi barhau â’i hymgyrch i annog menywod i fynd i mewn i fywyd cyhoeddus. #POWiPL

Dywedodd y Llywydd, “Mae’n bwysig bod gan fenywod fodelau rôl mewn swyddi uwch mewn bywyd cyhoeddus i ddangos eu bod nhw’n gallu llwyddo hefyd.

“Mae cael modelau rôl benywaidd cryf yn rhan allweddol o ymgyrch ‘Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus’ y Cynulliad Cenedlaethol.

“Rydym wedi cynnal digwyddiadau yn y Pierhead a oedd yn cynnwys anerchiad gan fenywod sy’n arweinwyr mewn meysydd sy’n draddodiadol wrywaidd.

“Maent wedi cynnwys y gwyddonydd y Farwnes Susan Greenfield, a’r Athro Laura McAllister, sef cadeirydd Chwaraeon Cymru.

“Mae’r gyfraith yn enghraifft o’r meysydd hyn, a dyna pam yr oedd yn anrhydedd cael croesawu’r Farwnes Hale a’i chydweithwyr i’r Senedd. Mae ein prif gynghorydd cyfreithiol yn fenyw, ond yn sicr mae’r gyfraith yn un maes o fywyd cyhoeddus lle mae angen i ni weld rhagor o fenywod mewn swyddi arweiniol.”

Y menywod eraill fydd yn rhan o’r rhaglen Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus fydd yr ymgyrchydd hawliau sifil Shami Chakrabarti, a fydd yn siarad yn y Pierhead ar 2 Gorffennaf, a’r darlledwraig a’r newyddiadurwraig Janet Street Porter ar 10 Hydref.

Mae tocynnau i glywed Shami Chakrabarti ar gael drwy ffonio llinell archebu’r Cynulliad ar 0845 010 5500 neu drwy anfon e-bost at archebu@cymru.gov.uk.