Arbenigwyr y DU yn cwrdd i drafod y Newid yng Nghyfansoddiad Cymru a goblygiadau Brexit

Cyhoeddwyd 11/10/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/10/2019


Bydd rhai o brif arbenigwyr cyfreithiol a chyfansoddiadol y DU yn dod i'r Senedd yr wythnos nesaf (14 Hydref 2019) i roi tystiolaeth i ymchwiliad newydd yn trafod dyfodol Cymru a'r newid yng nghyfansoddiad y DU.

Dywedodd Mick Antoniw AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol:

"Mae'r Deyrnas Unedig a Chymru yn wynebu argyfwng cyfansoddiadol. Mae'r posibilrwydd o gael gwared ar fframwaith cyfansoddiadol yr UE, yr ydym wedi byw a gweithio o'i fewn am y 40 mlynedd diwethaf, wedi datgelu rhaniadau yn ein cyfansoddiad sy'n gwaethygu.

"Mae dod â rhai o arbenigwyr cyfansoddiadol gorau y DU ynghyd i drafod mater dybryd newid cyfansoddiad Cymru yn gam pwysig yn ein hymchwiliad.

 "Fodd bynnag, nid yw'r cyfansoddiad bellach yn fater o bwys academaidd yn unig, ac am y tro cyntaf yn fy mywyd gwleidyddol i mae pobl gyffredin yn codi'r mater gyda mi yn y stryd.  Mae'r newid sylweddol hwn yn niddordeb y cyhoedd wedi cael ei danio yn rhannol gan achosion proffil uchel y Goruchaf Lys ac wrth gwrs, drwy'r drafodaeth ynghylch p'un a all Cymru a'r Undeb oroesi Brexit."

Bydd arbenigwyr o bob rhan o'r DU yn mynd i'r afael â dadleuon am ddyfodol yr Undeb, a safle Cymru o fewn unrhyw dirwedd newydd bosibl. Bydd y drafodaeth yn edrych ar yr heriau, y cyfleoedd a'r bygythiadau y gallai Cymru eu hwynebu dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. Byddant hefyd yn edrych ar y mater o rannu sofraniaeth, goblygiadau Brexit i Gonfensiwn Sewel a'r angen am gonfensiwn cyfansoddiadol i helpu i adeiladu consensws ynghylch newidiadau i fframwaith presennol y DU yn y dyfodol.

 

Dyma'r arbenigwyr a fydd yn cymryd rhan yn y sesiwn ar Newid yng Nghyfansoddiad Cymru:

  • Yr Athro Michael Keating, Cyfarwyddwr, Canolfan Newid Cyfansoddiadol, Prifysgol Aberdeen

  • Andrew Blick, Cyfarwyddwr, Canolfan Gwleidyddiaeth a Llywodraeth Prydain, King's College, Llundain

  • Yr Athro Jo Hunt, Canolfan Llywodraethiant Cymru

  • Akash Paun, Sefydliad Llywodraeth

  • Yr Athro Alan Page, Prifysgol Dundee

  • Yr Athro Aileen McHarg, Prifysgol Strathclyde (symud i Brifysgol Durham 1 Medi)

  • Yr Athro Michael Gordon, Cyfarwyddwr Ymchwil, Ysgol y Gyfraith Lerpwl - i'w gadarnhau

  • Yr Athro Alison Young, Cyfarwyddwr, Canolfan Cyfraith Gyhoeddus Caergrawnt

  • Dr Jack Simon Caird, Uwch Gymrawd Ymchwil mewn Seneddau a Rheol y Gyfraith, Canolfan Rheolaeth y Gyfraith Bingham

  • Dr Huw Pritchard, Canolfan Llywodraethiant Cymru

  • Yr Athro Dan Wincott, Canolfan Llywodraethiant Cymru