Arddangosfa o Lithwania yn y Senedd

Cyhoeddwyd 19/09/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Arddangosfa o Lithwania yn y Senedd

Mae arddangosfa o ddelweddau ffotograffig o Vilnius, prif ddinas Lithwania i’w gweld yn gyhoeddus yn yr Oriel ar hyd yr wythnos hon.  Mae Vilnius Rhymes yn darlunio pedwar degawd o newid yn Vilnius o 1960 hyd heddiw, mewn cyfres o ddelweddau du a gwyn gan y ffotograffydd Algimantas Kuncius.   Daethpwyd â’r arddangosfa, sy’n cael ei noddi gan y Llywydd, i’r Senedd gan Weinyddiaeth Diwylliant Lithwania.  Wrth siarad ochr yn ochr â’i Ardderchowgrwydd Mr Vygaudas Ušackas, Llysgennad Lithwania i’r DU yn lansiad yr arddangosfa ddydd Mawrth 18 Medi, dywedodd y Llywydd:  “Rwy’n falch iawn o gael bod yn noddi’r arddangosfa hon yn y Senedd. Mae ansawdd y delweddau sy’n cael eu harddangos yn eithriadol ac mae’r ffaith eu bod yn cael eu harddangos yn y Senedd yn rhoi cyfle i’r cyhoedd ymweld â’r Senedd i weld yr arddangosfa ac i ddatblygu’u dealltwriaeth o un o’n cymdogion Ewropeaidd newydd”.   Mae’r arddangosfa’n parhau tan ddydd Gwener. Mae’r Senedd ar agor o  8.00am - 8.00pm o ddydd Mawrth i ddydd Iau; 8.00am – 6pm dydd Llun a dydd Gwener; a 10.30am – 6.00pm yn ystod y penwythnosau.