Windrush Cymru: Celebrating a Generation

Cyhoeddwyd 24/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/09/2021   |   Amser darllen munudau

Archebwch eich tocyn

Mae straeon cenhedlaeth, yng ngeiriau y bobl eu hunain, yn rhan rymus a dadlennol o arddangosfa newydd sy’n dangos sut y mae Hynafiaid Windrush Cymru wedi dylanwadu ar fywyd Cymru a'i gyfoethogi.

Mi fydd yr arddangosfa, sef ‘Windrush Cymru: dathlu bywydau a siwrneiau cenhedlaeth’, ar agor hyd at 16 Rhagfyr yn y Senedd ym Mae Caerdydd. Bydd yr arddangosfa hefyd yn un o'r cyfleoedd cyntaf i aelodau o'r cyhoedd ymweld â’r safle ers dechrau'r pandemig. Mae’r tocynnau am ddim ac maent ar gael i'w harchebu yma.

Fel rhan o’r arddangosfa, mae 10 o bobl, sef Hynafiaid Windrush Cymru, yn rhoi cipolwg ar eu straeon, yn eu geiriau eu hunain, am sut y daethant hwy, neu eu teuluoedd, ar daith i Gymru yn ystod cyfnod o fewnfudo rhwng 1948 a 1988.

Ar ôl cael eu gwahodd gan lywodraethau olynol i helpu i leddfu’r prinder gweithwyr yn y DU, penderfynodd llawer o bobl o wledydd Caribïaidd y Gymanwlad ymfudo. Cawsant eu galw yn genhedlaeth Windrush, sy’n deillio o 'HMT Empire Windrush', sef y llong a ddaeth ag un o'r grwpiau cyntaf i'r DU yn 1948.

Bu Hynafiaid Windrush Cymru yn ymweld â'r Senedd ar 22 Medi i weld yr arddangosfa sy’n seiliedig ar eu profiadau nhw, sy'n rhan o Brosiect Treftadaeth Windrush Race Council Cymru, a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ac a gyflwynir mewn partneriaeth â'r Senedd ac Amgueddfa Cymru.

Mae'r straeon yn mapio'r llwybrau a ddaeth â phobl o wledydd Caribïaidd y Gymanwlad i fyw yng Nghymru ac yn adlewyrchu sut brofiadau a gawsant ar gyrraedd. Mae'n archwilio'r heriau o greu bywyd newydd mewn gwlad sy'n wahanol iawn i'w man geni, dod o hyd i waith ac agweddau pobl tuag atynt, ddoe a heddiw.

 

Cafodd May Laida ei geni ym Mauritius yn 1946, a symudodd i Gasnewydd yn 1965 i ymuno â'i dyweddi a oedd wedi ateb galwad y llywodraeth am weithwyr rai blynyddoedd ynghynt.

 May Laida
 ©Antonia Osuji

 

"Doeddwn i ddim yn gwybod ei bod hi’n oer. Dim ond dillad cotwm oedd gen i, felly diolch byth i’w fodryb fod mor garedig a rhoi côt ffwr imi.  Mis Mai oedd hi, ond roedd hi dal yn oer iawn. Dim ond fy ngwisg gotwm oedd gen i wrth deithio yma, a chotwm oedd gweddill y dillad hefyd, felly doedd gen i ddim byd cynnes. Doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl. 

Roedd gen i fachgen bach bryd hynny, ac roedden ni’n byw mewn fflat un stafell, heb ystafell ymolchi.  Roedd yna ystafell ymolchi, ond doedd y landlord ddim yn gadael inni ei defnyddio.   Felly pob dydd Gwener... byddwn i’n defnyddio’r dŵr twym, yn ei roi mewn bwced, mynd i’r toiled ac ymolchi’r babi a fi fy hun.  Yna, gwnaethon ni symud i fflat arall.   Gwnaethon ni symud dair gwaith yng Nghasnewydd, cyn inni brynu ein tŷ ni. 

Roedd hi’n amser anodd, ond roedd bywyd yn rhad.  Roedd y tŷ a’r ystafell yn rhad, ac roedd y cyflog ychydig yn llai na £10, felly dyna faint oedden ni’n byw arno. Roedd fy nyweddi hefyd yn anfon arian at ei fam gan ei bod hi wedi colli ei gŵr.”

 

Dywedodd Mrs Roma Taylor, Sylfaenydd a Chadeirydd Hynafiaid Windrush Cymru: "Rydw i mor falch o'r arddangosfa hon, mae'n foment werthfawr i bob un ohonom. Dyma ein straeon ni ac os na fyddwn ni’n eu rhannu nhw, yna fydd neb yn gwybod.

“Mae Windrush yn bwnc poenus ac emosiynol iawn ond mae'n rhaid i ni adrodd bob un o'n straeon. Mae'n bwysig i ni, ein plant a'n hwyrion ac i ysgolion. Mae'n rhaid i bawb wybod am yr heriau rydym ni wedi’u wynebu. Mae Duw wedi ein tywys ni. Tiger Bay oedd y lle gorau i fyw. Des i draw yn 1959. Roedd pawb yn gofalu am ei gilydd a doedd gennych chi ddim problemau."

Dywedodd yr Athro Uzo Iwobi, sylfaenydd Race Council Cymru a phrosiect Windrush Cymru – Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes: "Rwy'n falch o fod wedi cefnogi'r hynafiaid am flynyddoedd lawer, a’u clywed nhw’n galw am greu cofnod o’u straeon fel gwaddol i'w plant a'u hwyrion. Rwyf wrth fy modd bod y prosiect hwn a'r arddangosfa hon wedi dwyn ffrwyth – mae'n hynod bwysig gweld y straeon hyn yn cael eu trosglwyddo i'r genhedlaeth nesaf."

Dywedodd Sioned Hughes, o Amgueddfa Cymru: "Mae cenhedlaeth Windrush a'u teuluoedd wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy i Gymru, ac rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Race Council Cymru a'r Senedd i adrodd y straeon pwysig hyn. Rydym yn gobeithio y bydd ymwelwyr yn achub ar y cyfle i ymweld â'r arddangosfa bwerus hon yn y Senedd i ddarganfod sut y mae Hynafiaid Windrush Cymru wedi dylanwadu ar fywyd Cymru a'i gyfoethogi.

“Bydd yr hanesion llafar a gofnodwyd gan brosiect Windrush Cymru yn dod yn rhan o'r archif yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, ac rydym yn hynod ddiolchgar i Hynafiaid Windrush am rannu eu profiadau â ni ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol." 

Archebwch eich tocyn