Arweinyddiaeth, uchelgais a gyriant ‘ar goll yn anffodus’ mewn ymdrech i wella gwasanaethau addasu tai i bobl hŷn a phobl anabl yng Nghymru

Cyhoeddwyd 26/07/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/07/2018

Mae gwasanaethau addasu tai yng Nghymru yn parhau i fod yn is na'r safonau a ddisgwylir ganddynt gan olygu bod pobl yn gorfod brwydro i gael y cymorth a'r cyfleusterau sydd eu hangen arnynt, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Canfu'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fod yna loteri cod post o wasanaethau ar draws y wlad o ganlyniad i'r gwahanol ffrydiau ariannu yn ogystal â'r lleoliadau a'r amgylchiadau y mae pobl yn byw ynddynt, p'un a ydynt mewn llety awdurdod lleol, tenantiaid preifat, perchnogion tai neu eraill.

Dilynodd Aelodau'r Cynulliad adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a oedd yn dod i'r casgliad bod y system bresennol ar gyfer darparu addasiadau yn atgyfnerthu anghydraddoldebau ar gyfer rhai pobl anabl a phobl hŷn, ac mae mynd i'r afael ag anghenion yn cael ei gymhlethu gan y gwahanol ffynonellau cyllid.

Mae'r gwahaniaethau hyn yn arwain at bobl sydd ag anghenion tebyg yn derbyn gwahanol safonau gwasanaeth oherwydd dewisiadau polisi cyrff cyhoeddus.

Mae canfyddiadau'r Pwyllgor yn ategu'r materion a nodwyd mewn adolygiadau blaenorol  yn 2005, 2013 a 2015 ac nid yw Aelodau'r Cynulliad wedi'u darbwyllo y bydd Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill yn mynd i'r afael â'r problemau amlwg hyn.

Wrth ymateb i adroddiadau beirniadol blaenorol, cyflwynodd y llywodraeth ei hadolygiad 'HWYLUSO' ei hun. Ei bwriad yw sefydlu system newydd o fonitro ac adrodd gydag awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill yn gorfod cofnodi'r un gyfres graidd o wybodaeth a dangosyddion.

Ond canfu'r Pwyllgor nad yw HWYLUSO yn ystyried rhai o'r prif achosion sy'n peri oedi wrth addasu cartrefi pobl, yn benodol:

  • Data sy'n ymwneud â chaniatâd cynllunio neu gymeradwyaeth gan gwmnïau cyfleustodau;

  • Oedi yn sgil dewis penderfyniadau ymgeisydd / aelwydydd;

  • Data cydraddoldeb yn gofyn am ethnigrwydd yr ymgeisydd;

  • Oedi yn deillio o anawsterau wrth benodi contractwyr; ac

  • Yr amser a gymerwyd a chanlyniad addasrwydd cartref i'w addasu.  

 

"Ar ôl degawd a phedwar adroddiad ar wahân yn ddiweddarach, rydym yn credu bod yr arweinyddiaeth strategol, yr uchelgais a'r gyriant i gael gwared ar anawsterau mewn addasiadau tai ar goll, yn anffodus", yn ôl Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

"Mae pobl hŷn ac anabl yn dal i gael trafferth i gael y cymorth a'r cyfleusterau sydd eu hangen arnynt i aros yn eu cartrefi eu hunain ac nid ydym wedi ein darbwyllo gan y sicrwydd diweddaraf gan Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill eu bod yn gweithio er mwyn gwella pethau.

"Rydym am i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu gofynion sylfaenol cenedlaethol ar gyfer pob addasiad, a'i fod yn darparu cymorth ac arweiniad er mwyn i sefydliadau darparu wella gwasanaethau integredig.

"Byddwn yn edrych ar y mater hwn eto i weld pa gynnydd fydd wedi'i wneud yn y dyfodol."

Mae'r Pwyllgor yn gwneud chwe argymhelliad yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r data perfformiad y mae wedi'i chasglu o dan adolygiad HWYLUSO erbyn mis Tachwedd 2018. Wrth gyhoeddi'r wybodaeth hon, dylai Llywodraeth Cymru nodi'n glir unrhyw ddiffygion yn y rownd gyntaf o wybodaeth berfformiad a gesglir - er enghraifft, sefydliadau nad ydynt yn darparu ffurflenni - a sut maent yn bwriadu mynd i'r afael â'r bylchau hyn;

  • Bod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu sefydlu safonau sylfaenol cenedlaethol ar gyfer pob addasiad i sicrhau bod pobl anabl a phobl hŷn yn derbyn gwasanaeth o'r un safon waeth ble maent yn byw, pwy yw eu landlord ac a ydynt yn berchen ar eu cartref eu hunain; a

  • Bod Llywodraeth Cymru yn adolygu ei dangosyddion perfformiad data ar gyfer casglu data yn 2019-20. Dylai'r dangosyddion gael eu cynllunio er mwyn galluogi sefydliadau darparu i werthuso eu perfformiad, llywio eu strategaeth a gwella'r gwaith o ddarparu gwasanaethau.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yr adroddiad nawr.