Assembly Commission reinstates fully bilingual record and confirms its commitment to bilingual services

Cyhoeddwyd 24/11/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Comisiwn y Cynulliad yn ailddechrau cyhoeddi Cofnod cwbl ddwyieithog ac yn cadarnhau ei ymrwymiad i wasanaethau dwyieithog

24 Tachwedd 2011

Heddiw, cadarnhaodd Comisiwn y Cynulliad ei ymrwymiad i fod yn sefydliad dwyieithog drwy gytuno ar fframwaith newydd a fydd yn rheoli ei wasanaethau dwyieithog.

Rhan hanfodol o’r ymrwymiad hwnnw yw Bil Cynulliad drafft, a fydd yn rhoi sail statudol gadarn i ddyletswyddau’r Comisiwn i ddarparu gwasanaethau dwyieithog, ac a fydd yn cyflwyno’r trefniadau ar gyfer llunio Cynllun Ieithoedd Swyddogol newydd o dan y fframwaith ddeddfwriaethol arfaethedig.

Yn ogystal, penderfynodd y Comisiwn ailddechrau cyhoeddi Cofnod cwbl ddwyieithog o drafodion cyfarfod llawn y Cynulliad o fis Ionawr 2012.

Bwriedir cyflawni hyn drwy ddefnyddio systemau cyfieithu peirianyddol a sgiliau arbenigol cyfieithwyr i brawfddarllen a golygu’r gwaith.

Dywedodd Rhodri Glyn Thomas, y Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg: “Rwyf yn hynod falch fod y Comisiwn wedi cadarnhau’r ymrwymiad a wnaed ym mis Gorffennaf eleni.”

“Rwyf o’r farn fod y ddeddfwriaeth arfaethedig a’r Cynllun Ieithoedd Swyddogol yn cadarnháu ein hawydd i sicrhau bod y Cynulliad yn gosod esiampl yn y maes hwn.

“Drwy ddefnyddio technoleg ar y cyd â chyfieithwyr proffesiynol, rydym yn hyderus y gallwn ddarparu Cofnod o safon o drafodion y Cyfarfod Llawn mewn modd effeithiol a chynaliadwy.

“Bydd y model rydym yn ei ddatblygu hefyd o fudd i sefydliadau eraill sy’n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg. Drwy ddefnyddio technoleg i gyfieithu’r Cofnod, byddwn yn cynyddu cof y system a fydd ar gael i sefydliadau ac unigolion eraill ei ddefnyddio.

“Mae’r penderfyniad hwn yn cadarnhau bwriad Comisiwn y Cynulliad i barhau i ddatblygu gwasanaethau dwyieithog i sicrhau bod gwaith y Cynulliad yn hygyrch i bobl Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.”

Yn y cyfarfod heddiw, bu’r Comisiynwyr yn ystyried yr ymatebion a ddaeth i law dros y tri mis diwethaf fel rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus ar wasanaethau dwyieithog Comisiwn y Cynulliad.

Mae’r darpariaethau eraill yn y Bil drafft yn cynnwys:

  • Diffinio mewn cyfraith mai Cymraeg a Saesneg yw ieithoedd swyddogol y Cynulliad;

  • Gofyniad i’r cynllun ymgorffori gweithdrefn ar gyfer mynd i’r afael â chwynion bod y Cynulliad yn mynd yn groes i egwyddorion y cynllun;

  • Darpariaeth ar gyfer cynhyrchu adroddiadau monitro blynyddol a fydd yn cael eu gosod gerbron y Cynulliad.