Baner yr enfys i gael ei chodi yn y Cynulliad Cenedlaethol i nodi mis hanes LGBT

Cyhoeddwyd 10/02/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi mis hanes Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol (LGBT) drwy chwifio baner yr enfys uwchben ei ystâd ym Mae Caerdydd a Bae Colwyn o 10 Chwefror.

Bydd y Llywydd, y Fonesig Rosemary Butler AC, yn ymuno â Sandy Mewies AC, Comisiynydd y Cynulliad dros Gydraddoldeb, yn ogystal ag aelodau o rwydwaith staff LGBT y Cynulliad, Aelodau Cynulliad a chyfeillion LGBT i nodi'r digwyddiad.

Bydd rhwydwaith staff y Cynulliad yn nodi Mis Hanes LGBT drwy arddangos cyflwyniad o fodelau rôl LGBT yn y Senedd ac yn codi ymwybyddiaeth ymysg staff ac Aelodau'r Cynulliad. 

Mae hyn yn dilyn cydnabyddiaeth bellach o waith y Cynulliad yn y maes hwn gan Stonewall, y grŵp hawliau LGBT.

Roedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bedwerydd yn y DU yn 2014 ym Mynegai Stonewall o ran Cydraddoldeb yn y Gweithle.  Y Cynulliad, hefyd, ddaeth i'r brig fel y lle hoyw-gyfeillgar gorau i weithio ynddo yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Dywedodd y Llywydd, "Rwy'n falch bod y Cynulliad yn gwneud cymaint o waith cadarnhaol i wneud y gweithle yn fwy cynhwysol.

"Mae'r gwaith hwnnw wedi cael ei gydnabod gan Stonewall UK, ac mae ei Fynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle yn dangos mai'r Cynulliad yn un o'r perfformwyr gorau yn y DU o ran mynd i'r afael â rhwystrau.

"Ond allwn ni ddim gorffwyso ar ein bri gan fod llawer o waith i'w wneud o hyd.

"Rhan o'r gwaith hwnnw yw ein balchder wth gefnogi Mis Hanes LGBT drwy chwifio baner yr enfys ar draws ein hystâd."

Ychwanegodd Sandy Mewies AC, Comisiynydd y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb dros gydraddoldeb: "Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn parhau i ragori o ran ei waith ym maes cydraddoldeb.  Unwaith eto, rydyn ni wedi cael ein cydnabod yn un o'r cyflogwyr gorau yn y DU.

"Mae Mis Hanes LGBT yn ymwneud â dathlu amrywiaeth a lluosogrwydd diwylliannol ac rwy'n falch iawn bod y Cynulliad, unwaith eto, yn nodi Mis Hanes LGBT."