Beicwyr yn rhannu eu pryderon diogelwch gyda'r Pwyllgor

Cyhoeddwyd 02/03/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/03/2018

Mae chwech o bob deg person sy'n seiclo'n rheolaidd yn teimlo nad yw eu teithiau'n ddiogel. Dyma brif ganfyddiad arolwg newydd a gynhaliwyd gan un o bwyllgorau'r Cynulliad.

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wrthi'n ystyried Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 er mwyn asesu'r cynnydd a wnaed gan awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru ers iddi ddod i rym. Ymhlith pethau eraill, mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol fapio a gwella llwybrau teithio llesol er mwyn annog pobl i gerdded neu feicio mwy.

Fel rhan o'r ymchwiliad hwn, cynhaliodd y Pwyllgor arolwg byr i'w helpu i ddeall sut a pham y mae rhai pobl yng Nghymru yn cerdded ac yn seiclo, a pham mae eraill yn peidio â gwneud.

Dywedodd 60 y cant o bobl sy'n seiclo'n rheolaidd nad oeddent yn teimlo'n ddiogel wrth seiclo. O ran y bobl hynny sy'n seiclo'n achlysurol, roedd bron tri chwarter ohonynt yn mynegi'r un farn.

Mynegwyd pryderon hefyd ynghylch diffyg llwybrau dynodedig sydd wedi'u cysylltu, cysylltedd gwael mewn perthynas â thrafnidiaeth gyhoeddus a gwaith cynnal a chadw gwael ar lwybrau.

Cymerodd dros 2,500 o bobl ran yn yr arolwg, gan gynnwys mwy na 500 o bobl ifanc.

Dywedodd Russell George, Cadeirydd y Pwyllgor:

"Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn ein harolwg. Byddwn yn ystyried eu sylwadau fel rhan o'n tystiolaeth yn ystod yr ymchwiliad hwn.

"Roeddwn yn synnu bod chwech o bob deg o bobl sy'n seiclo'n rheolaidd yn dweud nad oeddent yn teimlo'n ddiogel wrth deithio. Byddwn yn codi'r pwyntiau a godwyd gyda thystion, gan gynnwys Gweinidogion Llywodraeth Cymru, dros yr wythnosau nesaf."

Drwy gydol mis Mawrth, bydd y Pwyllgor yn cymryd tystiolaeth lafar gan ystod o arbenigwyr, i ategu canlyniadau'r arolwg a sylwadau'r cyhoedd. Daeth galwad y Pwyllgor am dystiolaeth ysgrifenedig i ben ar 7 Chwefror. Gellir gweld y sylwadau a gyflwynwyd yma.