Beth yw'r heriau sy'n wynebu Aelodau newydd y Cynulliad?

Cyhoeddwyd 24/03/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/04/2016

Mae'r hyn a gyflawnwyd gan bwyllgorau trawsbleidiol y Cynulliad a blaenoriaethau ar gyfer y genhedlaeth nesaf o bwyllgorau yn cael eu hamlinellu mewn cyfres o adroddiadau etifeddiaeth.

 

Y pedwar sector a gaiff sylw ddydd Iau 17 Mawrth yw iechyd a gofal cymdeithasol, trafnidiaeth a menter, cymunedau a llywodraeth leol, a materion cyfansoddiadol. 

Rhwng 2011 a 2016, cynhaliodd pwyllgorau'r Cynulliad bron i 1500 o gyfarfodydd ffurfiol, cafodd dros 2700 o dystion eu holi a chraffwyd ar dros 2500 o bynciau gwahanol.

Dros y cyfnod hwnnw, cafodd pwyllgorau'r Cynulliad effaith ar:

  • Lywio adolygiad sylfaenol o Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru – y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol;
  • Ysgogi creu Llysgenhadon Cyllid Ewropeaidd – y Pwyllgor Menter a Busnes; ac
  • Annog Llywodraeth y DU i ailystyried y Bil Cymru drafft a fydd yn datganoli rhagor o bwerau i Gymru – y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

Mae pwyllgorau'r Cynulliad wedi tynnu sylw at amrywiaeth eang o bynciau, gan annog Gweinidogion Cymru i wella polisi mewn meysydd fel:

  • Tlodi - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol;
  • Entrepreneuriaeth ymysg Pobl Ifanc - Y Pwyllgor Menter a Busnes;
  • Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol;
  • Cyllid Ewropeaidd - Y Pwyllgor Menter a Busnes;
  • Marw-enedigaethau - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol;
  • Gwasanaethau Mabwysiadu yng Nghymru – y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg;

  • Materion ehangach sy'n deillio o adolygiad llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

  • Ariannu Cymru yn y Dyfodol – Y Pwyllgor Cyllid; a

  • Sancsiynau i Aelodau'r Cynulliad – Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

Mae'r meysydd allweddol a nodwyd gan y pwyllgorau ar gyfer parhau i graffu arnynt a'u monitro dros y pum mlynedd nesaf yn cynnwys:

 

Yr Economi a Thrafnidiaeth (PDF 2MB):

  • A yw strategaethau Llywodraeth Cymru, yn hyfforddi pobl yn y sgiliau cywir ar gyfer ei hanghenion economaidd;
  • Sut y gall gogledd Cymru elwa ar fenter y Northern powerhouse;
  • Perfformiad Dinas-ranbarthau a pha ysgogiad y byddant yn ei gael er mwyn llwyddo;
  • Llywodraethu, datblygiad a chynnydd y prosiect Metro;
  • Paratoadau Llywodraeth Cymru ar gyfer Masnachfraint Rheilffyrdd nesaf Cymru; a
  • Canlyniadau refferendwm yr UE ar economi Cymru.

 

Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PDF 5MB):

  • Perfformiad y gwasanaethau ambiwlans;
  • Gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, y darn mwyaf cymhleth o ddeddfwriaeth a basiwyd gan y Cynulliad hwn; a
  • Recriwtio, cadw a chynaliadwyedd gweithlu'r GIG;

 

Cymunedau a Chydraddoldeb (PDF 3MB):

  • Y problemau hirsefydlog sy'n gysylltiedig â gwasanaethau addasu cartrefi;
  • Trefniadau atebolrwydd cryfach rhwng y Cynulliad a'r cyfryngau sy'n gweithredu yng Nghymru;
  • Mynd i'r afael â thlodi yng Nghymru;
  • Effaith diwygio llywodraeth leol; a
  • Blaenoriaethau Llywodraeth nesaf Cymru o ran y Gymraeg.

 

Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol (PDF 4MB):

  • Penodiad ac atebolrwydd Comisiynwyr;
  • Y Bil Cymru sydd ar y gweill a'r trefniadau etholiadol ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru.   

 

Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (PDF 3MB):

  • Dylai unrhyw bwyllgor olynol sicrhau ei fod yn monitro a yw'r newid sylweddol y mae ei angen yn CAMHS yn cael ei gyflawni;
  • Dylai unrhyw bwyllgor olynol fonitro bod cynnydd yn cael ei wneud i leihau amrywiadau rhanbarthol o ran darparu gwasanaethau mabwysiadu ac, yn hollbwysig, bod plant a'u teuluoedd yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt ar ôl mabwysiadu. Mae hefyd yn hanfodol i fonitro a yw pob plentyn a fabwysiadwyd yn cael mynediad at waith stori bywyd o safon;
  • Dylai unrhyw Bwyllgor olynol fonitro gwaith i gyflwyno opsiynau ar gyfer cyflogi athrawon cyflenwi, gan gynnwys trefniadau clwstwr a weithredir gan awdurdodau lleol neu drwy gorff cenedlaethol; a
  • Dylai unrhyw Bwyllgor olynol ystyried goblygiadau canlyniad Adolygiad Diamond ar gyfer y system newydd o lywodraethu o fewn y sector addysg uwch a sefydlwyd gan y Ddeddf.

 

Cyfrifon Cyhoeddus (PDF 1MB):

  • Rydym yn argymell bod y Pwyllgor sy'n ein holynu yn ystyried canfyddiadau ac argymhellion ein hymchwiliad ar Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio os bydd ymchwiliadau yn y dyfodol yn nodi gwendidau tebyg yn nhrefniadau Llywodraeth Cymru ar gyfer llywodraethu a gweinyddu, gwaredu asedau cyhoeddus neu oruchwylio cyrff hyd braich;
  • Rydym yn argymell bod y pwyllgor sy'n ein holynu yn cael y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru yn ystod hydref 2016 ar wasanaeth awyr oddi mewn i Gymru – Caerdydd i Ynys Môn; a
  • Rydym yn argymell bod y pwyllgor sy'n ein holynu yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar weithredu ein hargymhellion ar gyflogau uwch-reolwyr.

Cyllid (PDF 4MB):

  • Yn dilyn Cysyniad Brenhinol y ddau Fil disgwyliedig mewn perthynas â chasglu trethi a ddatganolwyd i Gymru, dylid craffu ar Lywodraeth Cymru o ran gweithredu'r trethi wrth symud ymlaen;
  • Gwaith craffu cyn deddfu ar oblygiadau ariannol biliau drafft; a
  • Agweddau ariannol ar Fil Cymru, gan gynnwys costau model cadw pwerau  a'r effaith ar y grant bloc.

 

Safonau Ymddygiad (PDF 688KB):

  • Gallai canllaw mewn perthynas â'r cyfryngau cymdeithasol fod yn ddogfen ddefnyddiol ac mae'n argymell bod y pwyllgor nesaf sydd â chyfrifoldeb am faterion yn ymwneud â Safonau yn ymgymryd â darn o waith i ystyried ymhellach rinweddau cael canllaw yn y maes hwn; ac
  • Bod y Comisiynydd Safonau yn ymgymryd â darn o waith i lunio canllaw arfer gorau ar gyfer Aelodau sy'n ymwneud â materion cynllunio

Mewn adroddiad ar wahân, mae Cadeiryddion pwyllgorau'r Cynulliad wedi cyhoeddi eu hadroddiad etifeddiaeth eu hunain (PDF), gan wneud argymhellion i sefydlu pwyllgorau llai yn y Cynulliad nesaf, gyda mwy o allu i graffu, a mandad i ehangu eu hymgysylltiad â chynulleidfaoedd newydd.