Bil Asbestos yn cael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyhoeddwyd 03/12/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Bil Asbestos yn cael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

03 Rhagfyr 2012

Ddydd Llun, 3 Rhagfyr 2012, bydd Bil sydd â’r nod o adennill costau am driniaethau clefydau sy’n ymwneud ag asbestos yn cael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru), a gyflwynwyd gan Mick Antoniw AC, yr Aelod dros Bontypridd, yw’r ail Fil, nad yw’n Fil Llywodraeth, i gael ei gyflwyno yn dilyn balot a gynhaliwyd gan y Llywydd yn gynharach eleni.

Mae’r Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd â’r Bil yn datgan:

“Nod y Bil yw galluogi Gweinidogion Cymru i adennill oddi wrth ddigolledwr (sef person sy’n gwneud taliadau digolledu neu sy’n eu gwneud ar ei ran, i neu ar gyfer dioddefwr clefyd sy’n ymwneud ag asbestos), gostau penodol sy’n dod i ran y GIG yng Nghymru wrth ddarparu gofal a thriniaeth ar gyfer dioddefwr y clefyd sy’n ymwneud ag asbestos.”

Caiff y Bil ei gyflwyno’n swyddogol gan Mr Antoniw yn ystod y Cyfarfod Llawn yn y Senedd ddydd Mercher, 5 Rhagfyr, cyn symud ymlaen i Gyfnod 1 o’r broses ddeddfu sy’n cynnwys ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil.

Dywedodd Mr Antoniw: “Mae’r Bil hwn yn cydnabod etifeddiaeth ac effaith trasig clefydau sy’n ymwneud ag asbestos ar nifer o weithwyr a theuluoedd o Gymru ac yn cydnabod y gost sylweddol i’r GIG yng Nghymru o drin y clefydau.

“Bydd y Bil yn galluogi Llywodraeth Cymru i adennill cost y driniaeth mewn achosion lle mae atebolrwydd cyfreithiol am yr afiechyd wedi cael ei gadarnhau.

“Y bwriad yw defnyddio’r arian a gafodd ei adennill i ddarparu cymorth ychwanegol i ddioddefwyr clefydau sy’n gysylltiedig ag asbestos a’u teuluoedd.”