Mae pobl yng Nghymru yn cael eu gwahodd i ddweud eu dweud ar gyfraith arfaethedig ynghylch undebau llafur.
Mae Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar hyn o bryd yn edrych ar Fil yr Undebau Llafur (Cymru).
Mae'r Bil, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, yn cynnig datgymhwyso rhannau o gyfraith a basiwyd gan Senedd y DU sy'n ymwneud â'r modd y mae undebau llafur yn cael gweithredu.
Os caiff ei basio, gallai olygu na fydd darpariaethau penodol yng nghyfraith y DU bellach yn gymwys yng Nghymru, gan gynnwys y trothwy uwch ar gyfer pleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol sy'n effeithio ar wasanaethau cyhoeddus fel iechyd ac addysg.
Meddai John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau:
"Rydym yn gwybod bod y newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Undebau Llafur 2016 Llywodraeth y DU wedi bod yn destun cryn drafodaeth gyhoeddus, ac wedi ennyn safbwyntiau cryf gan undebau llafur, ond hefyd gan gyflogwyr, y sector cyhoeddus a'r gymuned fusnes.
"Mae Llywodraeth Cymru yn awr yn ceisio datgymhwyso rhai o ddarpariaethau Deddf y DU trwy'r Bil hwn. Mae'n bwysig bod y Cynulliad yn craffu'n drylwyr ac yn effeithiol ar y Bil.
"Bydd y Pwyllgor yn ceisio profi honiad Llywodraeth Cymru bod angen y Bil er mwyn diogelu ei phartneriaeth gymdeithasol â chyflogwyr, undebau llafur ac awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru.
"Rydym hefyd yn awyddus i ystyried sut y bydd y Bil yn effeithio ar ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus, fel iechyd ac addysg, yng Nghymru. Byddem yn annog unrhyw un sydd â barn ynglŷn â'r materion hyn i gyflwyno tystiolaeth i gyfrannu at ein gwaith."
Dylai unrhyw un sy'n dymuno cyfrannu at yr ymgynghoriad fynd i dudalennau'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar y we, neu ddilyn y Pwyllgor drwy Twitter ar @SeneddCLlLCh.