Blog gan William Powell AC, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, am yr Eisteddfod Genedlaethol

Cyhoeddwyd 16/08/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Blog gan William Powell AC, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, am yr Eisteddfod Genedlaethol 15 Awst 2011

Roeddwn yn falch iawn i ymweld a’r Eisteddfod Genedlaethol ddechrau mis Awst yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau. Diolch i’r tywydd godidog yn yr Eisteddfod, roedd y tim clercio a minnau’n gallu eistedd y tu allan i fws y Cynulliad (yn hytrach nag y tu mewn iddo, fel y gwnaethom yn y Sioe Frenhinol) i drafod deisebau yn yr heulwen. Mae cyflwyno deisebau yn ffordd wych i’r cyhoedd gyfrannu at waith y Cynulliad Cenedlaethol a dylanwadu arno. Drwy’r broses ddeisebau, gall unrhyw un dynnu sylw Aelodau’r Cynulliad a’r cyhoedd at fater penodol (cyd ag y bo’r Cynulliad yn gyfrifol am y mater hwnnw), ac felly rhoi pwysau gwleidyddol ar Lywodraeth Cymru i ystyried newidiadau i bolisi neu’r ffordd y mae’n mynd i’r afael a’i gwaith. Fodd bynnag, gall cyflwyno deiseb hefyd fod yn fodd defnyddiol o godi ymwybyddiaeth ynghylch mater penodol. Gall deiseb fod yn ganolbwynt ar gyfer ymgyrch ehangach a chynyddu’r sylw a roddir i fater penodol yn y wasg. Yn yr Eisteddfod, bum yn trafod y broses ddeisebau gyda chynrychiolwyr o fudiadau fel Shelter Cymru, Age Cymru, Cadwch Gymru’n Daclus, y Ffermwyr Ifanc, Canolfan Llywodraethiant Cymru, Mind Cymru, Barnardo’s a Stonewall Cymru.

Roedd yn wych cwrdd a thim Age Cymru oherwydd bod y Pwyllgor wedi ystyried ei adroddiad ar ddarpariaeth toiledau cyhoeddus, ‘Nowhere to Go’, fel rhan o’i drafodaethau ynghylch deiseb yn gofyn bod goblygiadau iechyd a lles cau toiledau cyhoeddus yn cael eu hystyried. Mae’r Pwyllgor bellach wedi anfon y ddeiseb i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gael ei hystyried. Roeddwn hefyd yn falch i gyfarfod a Chyfarwyddwr Stonewall Cymru, yn enwedig oherwydd bod Stonewall yn ddiweddar wedi cydnabod y Cynulliad fel un o gyflogwyr mwyaf hoyw-gyfeillgar y Deyrnas Unedig. Mae Stonewall hefyd wedi cyfrannu at ddeiseb yn galw am gyflwyno arweiniad gorfodol ar fwlio homoffobaidd i ysgolion. Mewn ymateb i lythyr ar y mater gan y Pwyllgor, dywedodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau ei fod wrthi’n datblygu arweiniad i fynd i’r afael a bwlio. Unwaith i’r arweiniad hwn gael ei gyhoeddi, byddwn yn gofyn barn y deisebwr arno.   Roeddwn yn arbennig o falch i weld cymaint o bobl ifanc yn ymweld a bws y Cynulliad, ac roedd yn gyfle gwych i ddweud wrthynt nad oes angen iddynt aros tan eu bod yn ddigon hen i bleidleisio er mwyn i wleidyddion glywed eu lleisiau; gall pobl ifanc unrhyw oed gyflwyno deisebau i’r Pwyllgor Deisebau. Yn wir, cafodd y ddeiseb yn galw am drenau ychwanegol i Abergwaun ei chyflwyno gan ddau berson ifanc 15 mlwydd oed. Cyflawnwyd amcanion y deisebwyr, oherwydd mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ariannu pum gwasanaeth tren ychwanegol i ac o Abergwaun o fis Medi 2011 ymlaen. Annogaf unrhyw un sy’n teimlo’n gryf am fater penodol i gysylltu a thim y Pwyllgor Deisebau yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i weld a allwch gyflwyno deiseb. Hoffwn ailadrodd yr hyn a ddywedodd un dyn a siaradais ag ef am ddeisebau yn y Sioe Frenhinol: dyma ddemocratiaeth ar waith! William Powell AC, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau