Brexit: Pryderon sylweddol i ddinasyddion yr UE sy'n byw a gweithio yng Nghymru

Cyhoeddwyd 08/11/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2019

​Mae Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE Llywodraeth y DU yn achosi problemau sylweddol i ddinasyddion yr UE sy'n byw a gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd. Cymru sydd â'r cyfraddau cofrestru isaf yn y DU. 

Dim ond 41 % o’r bobl sy’n gymwys i wneud cais o dan y cynllun i aros yng Nghymru ar ôl Brexit sydd wedi gwneud hynny. Mae’r rhethreg ynghylch ymfudo o’r UE ers y refferendwm wedi effeithio ar les emosiynol pobl, gan olygu nad ydynt bellach yn teimlo bod croeso iddynt fyw yma.    

Mae Llywodraeth y DU wedi cynnig trothwy cyflog o £30,000 i drigolion yr UE fod yn gymwys ar gyfer fisa gwaith ar ôl Brexit. Gall hyn niweidio economi Cymru a’i gadael yn brin o weithwyr proffesiynol allweddol, yn ôl cyflogwyr Cymru.  

Heddiw, mae Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sy'n canolbwyntio ar oblygiadau Brexit i Gymru, yn cyhoeddi adroddiad sy'n trafod effaith newidiadau i 'ryddid i symud' ar ôl Brexit. Yn ogystal â'r effaith ar wasanaethau a chyflogwyr, mae'r Pwyllgor wedi trafod yr effaith ar ddinasyddion unigol yr UE sy'n byw a gweithio yng Nghymru’r ar hyn o bryd – amcangyfrifir bod 80,000. 

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan ystod o weithwyr iechyd proffesiynol, cyflogwyr ac unigolion y byddai’n cael eu heffeithio gan y cynigion i newid y system fewnfudo wedi Brexit.

Mae sefydliadau sy'n cynrychioli cyflogwyr a gweithwyr allweddol, gan gynnwys Conffederasiwn GIG Cymru GIG Cymru, Coleg Brenhinol Nyrsio Cymru, Airbus, Prifysgolion Cymru, TUC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, wedi mynegi pryderon difrifol i'r Pwyllgor. Mae cynigion Llywodraeth y DU i ddinasyddion yr UE ar ôl Brexit yn peri pryder i wasanaethau iechyd a busnesau. O dan gynigion Llywodraeth y DU, byddai bron i ddwy ran o dair o weithwyr yr UE yng Nghymru yn anghymwys ar hyn o bryd o dan y system arfaethedig gyda'r trothwy cyflog o £30,000, a byddai'r trothwy yn arwain at ostyngiad o 57 % mewn mewnfudo o’r UE i Gymru dros ddeng mlynedd.

Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE – digidol yn ddiofyn


Fel rhan o’i ymchwiliad, clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan bobl sy’n cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan y newidiadau i ryddid i symud wedi Brexit.

Sefydlodd Llywodraeth y DU y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE oherwydd, yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd gan ddinasyddion yr UE sy'n byw yn y DU hawl gyfreithiol i breswylio yn y DU pan fydd yn gadael yr UE a daw’r rhyddid i symud i ben. 

Rhaid i ddinasyddion yr UE sy'n byw yn y DU gofrestru ar gyfer yr EUSS, ac ar hyn o bryd Cymru sydd â’r gyfradd gofrestru isaf yn y DU. Hyd yn hyn, dim ond 41 % o'r rhai sy'n gymwys i wneud cais sydd wedi gwneud hynny.

Clywodd y Pwyllgor nifer o bryderon am y system sy’n cael ei ddefnyddio i gofrestru. Mae Llywodraeth y DU wedi mabwysiadu dull 'digidol yn ddiofyn', ac fe gafwyd problemau gyda'r dechnoleg. Mae'r system bresennol dim ond yn caniatáu defnyddio ffonau neu dabledi Android, nid yw’n cefnogi ffonau iPhone. 

Trothwy o £30,000 - rhy uchel i Gymru


Dywedodd Conffederasiwn GIG Cymru, y corff sy’n cynrychioli’r holl sefydliadau’r GIG yng Nghymru, wrth y Pwyllgor y byddai’r cynigion i gynnwys dinasyddion yr UE yn ei drothwy cyflog o £30,000 ar gyfer fisa yn gwaethygu’r prinder staff presennol. Fe dynnodd sylw at y ffaith bod 53 % o staff presennol GIG yr UE yn ennill llai na hynny. 

Yn ôl Sefydliad Bevan, y cyflog cyfartalog ar gyfer gweithwyr amser llawn yng Nghymru yw £26,000, sy'n sylweddol is na'r trothwy arfaethedig. Dywedodd Airbus, sy’n cyflogi llawer o bobl yng Nghymru, fod y trothwy yn “rhy uchel i sectorau allweddol” a gallai hyn fod â goblygiadau i nifer o wasanaethau a diwydiannau allweddol. Roedd yn dadlau y gallai’r cynigion gan Lywodraeth y DU “adael bylchau yng ngofynion Cymru nad oes modd eu llenwi yn y tymor byr”.

Mae’r Pwyllgor o’r farn na fydd trothwy cyflog ar y lefel hon yn diwallu anghenion na gofynion economi Cymru. Mae'n galw ar Lywodraeth y DU i ostwng y gofynion o ran trothwy cyflog ac mae'n argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio'r holl ddulliau sydd ar gael i sicrhau bod y trothwy cyflog arfaethedig presennol yn cael ei ostwng.

Teimlo'n ddigroeso


Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan bobl sy’n cael eu heffeithio’n uniongyrchol, a’r ffaith bod llawer o bobl yn teimlo nad oedd croeso iddynt bellach yn y DU yn dilyn refferendwm yr UE. 

Roedd rhai yn dadlau fod y polisi Llywodraeth y DU ers y refferendwm wedi gwaethygu hyn. Dywedodd sawl unigolyn bod rhywfaint o'r rhethreg ynghylch ymfudo o'r UE wedi caledu, gan ddisgrifio’r effaith y mae hyn wedi’i chael ar eu lles emosiynol nhw a lles ffrindiau a/neu aelodau o'r teulu.

Pwysleisiodd un cyfranogwr nad proses weinyddol yn unig mo hyn, a’i bod yn bwysig cofio bod y broses yn effeithio ar fywydau pobl go iawn. 

Dywedodd Michal Poreba o Abertawe, dinesydd o’r UE yn wreiddiol o Wlad Pwyl a roddodd dystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor:

“’Dyw’r cynllun preswylio’n sefydlog i ddinasyddion yr UE na chynigion mewnfudo Llywodraeth y DU ar ôl Brexit yn ymwneud â phrosesau gweinyddol yn unig, maent yn ymwneud â bywydau pobl. Mae pobl go iawn yn ei chanol ac mae’n bwysig ystyried sut y mae’r broses yn effeithio arnyn nhw a’u teuluoedd. Ond, mae’n edrych fel petae’r ddadl gyfan yn ymwneud ag ymarferoldeb gweithredu’r broses.  

Mae ‘na gwestiynau am pam y mae cyn lleied o bobl wedi cofrestru hyd yn hyn, a sut allwn gynyddu’r nifer sy’n gwneud hynny? Ond beth mae’n ei gynnig? Pam fyddai unrhyw un yn gwneud cais? Y gwir amdani yw bod y cynllun yn lleihau hawliau’r ymgeiswyr yn sylweddol. Mae mynd drwy’r broses, er ei bod yn eithaf hawdd yn dechnegol a syml, yn flinedig ac nid yw’n gwarantu hawliau cyfreithiol.  Mae'n teimlo fel gweithred o hunan-niweidio gwleidyddol. Does dim syndod nad oes ciwiau i wneud ceisiadau. 
“Mae’r neges sy’n cael ei hailadrodd gan wleidyddion yn ymddangos yr un peth - byddwn yn caniatáu i chi aros. Rydyn ni am i chi aros. Wrth gwrs, yn economaidd mae nhw angen i ni aros, o leiaf yn y tymor byr. Ond mae gwahaniaeth mawr rhwng cael caniatâd i aros, a chael eich croesawu. Mae gwahaniaeth mawr rhwng hawl gyfreithiol a chaniatâd.”

Rhestr Galwedigaethau â Phrinder


Mae gan Gymru anghenion penodol. Mae'r Rhestr Galwedigaethau â Phrinder yn rhestr swyddogol o alwedigaethau lle nad oes digon o weithwyr preswyl (gan gynnwys gwladolion yr UE) i lenwi swyddi gwag. Mae rhestr y DU wedi ei hategu gan restr ar wahân ar gyfer yr Alban. 

Roedd mwyafrif y bobl a roddodd dystiolaeth i'r Pwyllgor o blaid llunio Rhestr Galwedigaethau â Phrinder yn benodol i Gymru i ddiwallu anghenion penodol Cymru.  Mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth y DU i lunio’r rhestr, a byddai Llywodraeth Cymru yn gallu ei diwygio yn unol ag anghenion Cymru.

Dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol:

“Mae gennym bryderon sylweddol o ran goblygiadau Brexit i’n gweithlu yng Nghymru. Bydd dod â rhyddid i symud i ben yn effeithio ar fusnes a'n heconomi os ydym yn colli gweithwyr hanfodol. Yr hyn sy'n peri mwy o bryder yw'r effaith y gallai colli dinasyddion yr UE ei chael ar ein Gwasaneth Iechyd yng Nghymru. Rydym yn dibynnu ar ddinasyddion yr UE sy'n gweithio fel nyrsys a gofalwyr.

“Clywsom dystiolaeth bryderus ac emosiynol iawn gan ddinasyddion yr UE a’u teuluoedd sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru.  Rhaid i ni beidio ag anghofio'r effaith ar bobl a ddaw yn sgil rhoi terfyn ar ryddid i symud. 

“Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn ei gallu i gael Llywodraeth y DU i ostwng ei throthwy cyflog arfaethedig o £30,000 er mwyn adlewyrchu enillion cyfartalog yma yng Nghymru yn well. O dan y cynigion hyn, ni fyddai bron i ddwy ran o dair o weithwyr yr UE yng Nghymru ar hyn o bryd yn gymwys i fyw yma. Gallai hyn olygu na fyddem yn gallu recriwtio gweithwyr allweddol fel nyrsys a gofalwyr o dramor.

“Mae’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ar gyfer y rhai sydd eisoes yn byw ac yn gweithio yng Nghymru yn llawn problemau, gyda phroses ymgeisio ar-lein yn unig, a mynediad cyfyngedig ar ffonau clyfar - rhaid mynd i’r afael â’r problemau hyn ar unwaith.

“Mae anghenion penodol economi Cymru, a’r ddemograffeg newidiol yng Nghymru, gan gynnwys poblogaeth sy’n heneiddio, yn debygol o greu heriau newydd yn y dyfodol. Mae'r heriau hyn o fewn economi Cymru yn debygol o gael eu gwaethygu gan drefn fewnfudo or-gyfyngol ar ôl Brexit. 

“Heddiw, rydyn ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i ddangos arweinyddiaeth go iawn ac anfon neges gref bod yna groeso, gwerthfawrogiad ac angen dinasyddion yr UE ar Gymru, ac rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i ailfeddwl ei chynigion ac ystyried anghenion economi a gwasanaethau cyhoeddus Cymru.”