Bron i 2000 o ymweliadau â chofnod cyhoeddus hawliau treuliau Aelodau’r Cynulliad

Cyhoeddwyd 01/07/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Bron i 2000 o ymweliadau â chofnod cyhoeddus hawliau treuliau Aelodau’r Cynulliad

Ddoe lansiwyd cofnod cyhoeddus ar-lein newydd o hawliadau treuliau Aelodau’r Cynulliad, a bron i 2000 o ymweliadau â’r wefan yn ystod y 24 awr cyntaf.  

Pan gafodd y system ei lansio am 9am ar 29 Mehefin, roedd hyn yn rhoi Cymru ar flaen y gad o ran tryloywder treuliau Aelodau.

Gellir chwilio drwy’r safle yn ôl enw’r Aelod Cynulliad, math o lwfans neu ddyddiad yr hawliad a gall defnyddwyr glicio ar eu llygoden i weld yn union beth sy’n cael ei hawlio gan eu Haelodau.

Ar hyn o bryd, dim ond hawliadau ar gyfer blwyddyn ariannol 2008/09 sydd ar gael, ond o fis Hydref, caiff y cofnod ei ddiweddaru bob mis. O’r hydref, cyhoeddir yr hawliadau bob mis, dri mis ar ôl iddynt ddod i law.

“Sefydlwyd y system hon fel ein bod yn fwy agored ac yn fwy gonest nag erioed o’r blaen â phobl Cymru,“ dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AM, Llywydd y Cynulliad.

“Mae nifer yr ymweliadau â’r safle yn dangos y tryloywder hwn ar waith a’r gobaith yw y bydd yn galluogi’r Cynulliad Cenedlaethol i gadw ei statws fel y prif sefydliad democrataidd dros Gymru.”

Gellir gweld y cofnod yn http://www.cynulliadcymru.org/allowances