Busnes y Cynulliad Cenedlaethol yn ailddechrau

Cyhoeddwyd 10/11/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/11/2017

Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ailddechrau busnes ddydd Mawrth 14 Tachwedd.

Bydd y Cyfarfod Llawn yn dechrau am 12.30 gyda theyrngedau i'r cyn Aelod Cynulliad Carl Sargeant a fu farw'r wythnos hon. Bydd hanner awr o hoe yn dilyn teyrngedau cyn ail gydio yn agenda'r cyfarfod am 14.00. Mae'r agenda wedi cael ei gyhoeddi ond gall newid. Bydd agenda ddydd Mercher yn cael ei chyhoeddi heddiw hefyd.

Mae Pwyllgorau yn debygol o ailddechrau o ddydd Mercher 15 Tachwedd ymlaen. Bydd agendâu'r cyfarfodydd ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol o ddydd Llun 13 Tachwedd.

Hoffem atgoffa'r cyhoedd bod llyfr o gydymdeimlad wedi cael ei agor i ymwelwyr yn y Senedd.

Mae rhaglen y Cynulliad Cenedlaethol o ddigwyddiadau cyhoeddus ar gyfer Senedd Delyn wedi'i chanslo.