Bwrdd Taliadau annibynnol y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal ei gyfarfod cyntaf gydag Aelodau’r Cynulliad

Cyhoeddwyd 14/10/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Bwrdd Taliadau annibynnol y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal ei gyfarfod cyntaf gydag Aelodau’r Cynulliad

14 Hydref 2010

Heddiw, (dydd Iau 14 Hydref) cynhaliodd Bwrdd Taliadau annibynnol y Cynulliad Cenedlaethol ei gyfarfod cyntaf gydag Aelodau’r Cynulliad a’u staff fel rhan o’r hyn y mae cadeirydd y Bwrdd, George Reid, yn ei ddisgrifio fel “deialog agored a pharhaus” er mwyn sicrhau bod system daliadau yr Aelodau yn un deg a thryloyw.

Mae pob aelod o’r Bwrdd, a gafodd ei sefydlu o ganlyniad i Fesur a gynigiwyd gan Gomisiwn y Cynulliad, sef Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau), yn gwbl annibynnol, ac mae gan bob un ohonynt brofiad helaeth o waith gwleidyddion etholedig a materion taliadau yn y sectorau preifat a chyhoeddus.

Dywedodd George Reid, cadeirydd y Bwrdd, fod Aelodau’r Cynulliad wedi gwneud cyfraniadau gwerthfawr i drafodaethau’r dydd, ac roedd yn eu canmol am fod ganddynt eisioes system gadarn a thryloyw o lwfansau.

Dywedodd Mr Reid: “Cododd sawl mater pwysig i’w trafod ymhellach yn ystod trafodaethau gyda’r Aelodau a’u staff.”

“Yn gyntaf, cafwyd cydnabyddiaeth amlwg fod y trafodaethau hyn am daliadau yn digwydd yn ystod cyfnod o rewi taliadau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, gyda’r Cynulliad Cenedlaethol yn paratoi ei hun ar gyfer gostyngiad o hyd at 25% yn ei gyllideb yn dilyn yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant gan y Trysorlys yr wythnos nesaf. Mae cyd-destun cyllidol mor ddifrifol â hyn yn gofyn cael system deg ond atebol ar hyd yn oed mwy o frys,” ychwanegodd.

“O ganlyniad i hyn, rydym wedi awgrymu y byddai Aelodau o bosibl yn cytuno i rewi eu cyflogau yn wirfoddol ar gyfer y pedwerydd Cynulliad.

“Yn ail, mae Aelodau’r Cynulliad yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, yn deddfu ar gyfer Cymru ac yn cynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, ac yn gwneud hynny o fewn system o bleidiau gwleidyddol. Rhaid i Aelodau fod â’r adnoddau angenrheidiol i gyflawni’r swyddogaethau hynny.

“Mae’n amlwg i’r Bwrdd bod gwrthwynebiad sylweddol i’r cynnig gwreiddiol gan y Panel Adolygu Annibynnol i ganoli adnoddau’r pleidiau – byddwn yn rhoi ystyriaeth i’r pryderon hyn.”

Dywedodd Mr Reid fod y trafodaethau eang wedi cyffwrdd ar fentrau posibl i leihau costau fel rhagor o bwyslais ar ganoli prynu gwasanaethau ar gyfer Aelodau ledled Cymru.

Dywedodd Mr Reid: “Mae’r trafodaethau heddiw wedi dechrau dangos y ffordd ymlaen i’r Bwrdd. Erbyn diwedd mis Chwefror 2011, y gobaith yw y byddwn wedi llunio penderfyniad a fydd yn glir, yn gynaliadwy ac yn cynnig gwerth am arian wrth dalu cyflogau a lwfansau i Aelodau’r Cynulliad yn y pedwerydd Cynulliad. Byddwn yn cael ein llywio gan ddau gymharydd:

“Yn gyntaf, byddwn yn edrych ar fatrics o daliadau cynrychiolwyr etholedig yn Nhy’r Cyffredin, Senedd yr Alban, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd Gogledd Iwerddon a chymharu hynny â’u cyfrifoldebau perthnasol.

“Yn ail, rydym yn benderfynol o edrych ar hyn yng nghyd-destun cyflogau yng Nghymru. Mae’n hanfodol i’n gwaith bod yr hyn y mae Aelodau’r Cynulliad yn ei ennill dros y pedair blynedd nesaf yn adlewyrchu’r realiti o’r hyn y mae dynion a menywod Cymru yn eu cael yn eu pecynnau cyflog.”

Gwahoddir pob Aelod Cynulliad i ymateb yn ysgrifenedig i’r ddogfen ymgynghori a gaiff ei chyhoeddi ym mis Tachwedd. Dywedodd Mr Reid y byddai’r Bwrdd yn croesawu unrhyw ymateb gan y cyhoedd a sefydliadau cynrychioliadol.

Bwrdd Taliadau