Bws y Cynulliad i ymweld â Sioe Frynbuga

Cyhoeddwyd 09/09/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Bws y Cynulliad i ymweld â Sioe Frynbuga

9 Medi 2010

Bydd bws allgymorth Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn teithio i Sioe Frynbuga ar 11 Medi er mwyn rhoi gwybodaeth i’r cyhoedd am waith y Cynulliad a hyrwyddo thema eleni, sef ‘pleidleisio’. Bydd cyfle i bawb sy’n ymweld â’r bws gymryd rhan mewn gweithdai yn ymwneud ag ymgysylltu â’r Cynulliad, a gwylio cyflwyniadau aml-gyfrwng ar waith y Cynulliad. Bydd ystod o weithgareddau ar gael i blant, i’w hannog i ddysgu am waith y Cynulliad ac i bwysleisio pwysigrwydd cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. Gan ddefnyddio gorsafoedd adborth unigol, caiff y cyhoedd gyfle i fynegi barn ynghylch y materion y dylai’r Cynulliad ymdrin â hwy. Dywedodd Rebecca Spiller, Rheolwr Cyswllt ac Allgymorth De Cymru: “Mae bws allgymorth y Cynulliad yn cludo’r Cynulliad i bob rhan Gymru. Mae’n rhoi cyfle i bobl ddysgu am waith y Cynulliad, a sut y gall y gwaith hwn effeithio ar eu bywydau.” “Mae’r bws yn rhoi cyfle i bobl ddysgu am eu Haelodau Cynulliad lleol, y gwaith a wneir gan bwyllgorau craffu a phwyllgorau deddfwriaeth, yn ogystal â sut y gall gwaith y Cynulliad effeithio ar eu bywydau. “Byddem yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am waith y Cynulliad i ymweld â’r bws.”